Casnewydd 2–1 Accrington Stanley                                            

Cafwyd perfformiad gwych gan Gasnewydd wrth iddynt drechu Accrington Stanley ar Rodney Parade nos Fawrth.

Fe fyddai pwynt wedi bod yn ddigon i’r ymwelwyr sicrhau pencampwriaeth yr Ail Adran ond bydd yn rhaid iddynt aros am ychydig ddyddiau eto oherwydd goliau Amond a Nouble.

Rhoddodd Padraig Amond y tîm cartref ar y blaen wedi hanner awr cyn i Frank Nouble ddyblu’r fanatis bum munud o ddiwedd y naw deg.

Roedd digon o amser ar ôl i Billy Kee dynnu un yn ôl i Accrington ond rhy ychydig rhy hwyr a oedd hi wrth i’r Alltudion ddal eu gafael.

Mae’r canlyniad yn codi tîm Mike Flynn i’r trydydd safle ar ddeg yn y tabl gyda thair gêm yn weddill.

.

Casnewydd

Tîm: Day, White, O’Brien, Demetriou, Butler, Wilmott, Tozer, Dolan, Sheehan (Collins 71’), Amond, Nouble (Hayes 90’)

Gôl: Amond 30’, Nouble 85’

Cardiau Melyn: White 66’, Demetriou 88’

.

Accrington Stanley

Tîm: Chapman, Johnson (Zanzala 75’), Dunne, Highes, Donacien, Clark, Brown, Conneely, McConville, Kee, Jackson

Gôl: Kee 90’

Cerdyn Melyn: Brown 61’

.

Torf: 2,370