Mae rheolwr Abertawe, Carlos Carvalhal wedi dweud y bydd ei dîm yn brwydro tan y diwedd i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Byddan nhw’n teithio i Manchester City i herio pencampwyr y gynghrair ddydd Sul (4.30), ac mae’r rheolwr yn dweud y bydd y tîm yn “falch” o gynnig gosgordd iddyn nhw wrth ddod i’r cae.

Mae’r Elyrch yn dechrau’r diwrnod yn ail ar bymtheg, un safle uwchlaw safleodd y gwymp, ond mae ganddyn nhw fantais o bedwar pwynt a gêm mewn llaw dros Southampton, sy’n ddeunawfed.

Dywedodd Carlos Carvalhal: “Dw i’n credu y bydd yn frwydr tan y funud olaf i aros i fyny. Mae rhai timau wedi chwarae un gêm yn fwy na ni, a rhai wedi chwarae dwy gêm yn fwy na ni.

“Dw i’n credu y gall pob un ohonyn nhw o Bournemouth [sy’n unfed ar ddeg] i lawr gwympo o hyd fel y mae’n sefyll.”

Y timau

Mae’r chwaraewr canol cae, Sam Clucas ar gael unwaith eto i’r Elyrch yn dilyn anaf i’w benglin, ac mae’r amddiffynnwr canol Mike van der Hoorn wedi gwella o anaf i’w ysgwydd.

Ond mae’r chwaraewyr canol cae Luciano Narsingh (ffêr) a Renato Sanches (llinyn y gâr) allan o hyd.

O safbwynt Man City, mae Sergio Aguero allan am weddill y tymor ar ôl cael llawdriniaeth ar ei benglin, ac mae amheuon am gesail y forddwyd yr amddiffynnwr canol John Stones.

Gemau’r gorffennol ac ystadegau allweddol

Mae Man City wedi ennill 10 allan o 13 o gemau yn Uwch Gynghrair Lloegr yn erbyn Abertawe, gan golli unwaith ym mis Mawrth 2012.

Man City enillodd yr 11 gêm ddiwethaf gartref yn erbyn Abertawe – a dydyn nhw ddim wedi colli gartref yn eu herbyn ers 1951.

Er mai pum pwynt yn unig gollodd Man City ar eu tomen eu hunain y tymor hwn, maen nhw wedi colli eu tair gêm gartref ddiwethaf.

Mae ystadegau Abertawe’n ofidus y tymor hwn, er mai tair colled yn unig gawson nhw ers i Carlos Carvalhal gael ei benodi ddiwedd y llynedd.

Dydyn nhw ddim wedi ennill yr un o’u pedair gêm ddiwethaf yn y gynghrair, a dydyn nhw ddim wedi ennill oddi cartref yn erbyn yr un o’r timau yn hanner ucha’r tabl y tymor hwn.

Dim ond un gôl maen nhw wedi’i sgorio yn erbyn un o saith tîm ucha’r gynghrair y tymor hwn, ond maen nhw’n ddiguro ym mhob gêm y mae Jordan Ayew wedi sgorio ynddyn nhw yn ystod y tymor.

Pe bai Kyle Naughton yn cael ei ddewis yn safle’r cefnwr de, fe fydd yn chwarae ei ganfed gêm gynghrair dros Abertawe.