Mae’r ddadl wedi codi eto am y stadiwm orau i chwarae gêmau pêl-droed Cymru wrth i’r Gymdeithas Bêl-droed fethu cadarnhau na gwadu y gallai gêm gyfeillgar fawr fynd i Stadiwm y Principality yn hytrach na Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae cefnogwyr selog yn bendant o blaid y stadiwm lai sydd wedi bod yn gartref i’r tîm trwy ei gyfnod llwyddiannus diweddar – mae rhai ohonyn nhw’n dweud nad oes eisiau poeni am gefnogwyr “tywydd teg” sy’n methu cael lle yn honno.

“Lol ydi poeni am y rheiny sydd byth yn dod i wylio’r tîm a chwyno eu bod nhw’n methu â chael tocynnau – anghofiwch Stadiwm y Principality, mae’n fawr ond fyth yn gartref,” meddai’r cefnogwr brwd, Mike ‘Moppy’ Rees o Ferthyr wrth golwg360.

Mae’r ddadl wedi aildanio ar y gwefannau cymdeithasol ers i’r Gymdeithas Bêl-droed sicrhau gêm gyfeillgar yn erbyn Sbaen yn yr hydref – dydyn nhw ddim wedi diystyried chwarae’r gêm yn y Principality lle byddai’r seddi ychwanegol yn dod ag arian mawr.

O blaid

“Ar gyfer gêm fawr fel Sbaen, pe bai tocynnau’n rhad, mi ddylai Stadiwm Principality fod yn llawn ac mae’n rhoi cyfle i ieuenctid Cymru ddod i gêmau. Dyw chwarae gêmau cyfeillgar yno ddim yn broblem i mi ond aros yn Stadiwm Dinas Caerdydd am gêmau cystadleuol.” Chris Raabianski, Merthyr

Yn erbyn

“Aros lle ydan ni – rydan ni’n eitha saff o lenwi Stadiwm Dinas Caerdydd. Mae Sbaen yn siŵr o dynnu’r cefnogwyr rhan amser fydd yna i weld sêr Sbaen yn lle gweiddi drson ni – mwy o gyfle cael cefnogwyr ffyddlon i wneud gwahaniaeth yn Stadiwm Dinas Caerdydd.” – Glyn Gruffudd, Deiniolen.