Bydd Clwb Pêl-droed Caernarfon yn eu holau yn Uwch Gynghrair Cymru y tymor nesaf ar ôl curo Caersws oddi cartref 0-2 neithiwr.

Mae’r Cofis bellach yn gobeithio sicrhau’r bencampwriaeth nos Fercher yng nghyffordd Llandudno.

Maen nhw wedi cael tymor i’w gofio gydag un golled yn unig yn y gynghrair, a rhediad gwych yng Nghwpan Cymru cyn colli i’r Seintiau Newydd yn y bedwaredd rownd.

Tymor gwych

“Rydan wrth ein boddau i ennill dyrchafiad,” meddai is-reolwr y clwb, Richard Davies wrth Golwg360.

“Mae wedi bod yn dymor gwych, mae’n rhaid cofio gwnaeth Iwan Williams y rheolwr adael ym mis Tachwedd ond mi wnaeth Sean Eardley gymryd yr awenau a ’dan ni heb edrych nôl. Cawsom sgwrs ar ôl iddo gael y swydd, a dywedodd wrth bawb am gario ymlaen a chanolbwyntio ar y nod o gael dyrchafiad.

“Mae’r clwb wedi bod yn unedig, o staff y cantîn, yr academi, y pwyllgor ac wrth gwrs ein deuddegfed dyn, y Cofi Army.”

Roedd y clwb wedi derbyn y drwydded ddomestig sy’n angenrheidiol yn ddiweddar am yr ail dymor yn olynol.

Roedd hynny’n arwydd o ba mor galed roedd pobol y tu ôl i’r llenni wedi gweithio ar ôl y siom yn 2015/16 o fethu â chael dyrchafiad ar ôl gorffen yn gyntaf ac ennill Gwpan y Gynghrair – a hynny oherwydd fod y Gymdeithas Bêl-droed wedi gwrthod y drwydded  am resymau ariannol.

Ychwanegodd Richard Davies, “Y nod rŵan ydy ennill y gynghrair nos Fercher, mae’r ffocws ar hynna, a thymor nesaf, y nod fydd sefydlu’n hunain yn y gynghrair.”