Abertawe 1–1 Everton                                                                     

Gôl yr un a phwynt yr un a oedd hi wrth i Abertawe groesawu Everton i’r Liberty yn Uwch Gynghrair Lloegr brynhawn Sadwrn.

Ond mae’r Elyrch yn llithro i gyfeiriad safleoedd y gwymp er gwaethaf y gêm gyfartal oherwydd buddugoliaethau cartref i Crystal Palace a Huddersfield.

Abertawe a oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf ond roeddynt ar ei hôl hi ar yr egwyl yn dilyn gôl anffodus i’w rwyd ei hun gan Kyle Naughton. Gwnaeth Lukasz Fabianski arbediad dwbl da i atal Yannick Bolasie ac Idris Gueye ond gwyrodd y bêl dros y llinell oddi ar wyneb Naughton.

Parhau i reoli a wnaeth yr Elyrch wedi’r egwyl ac roeddynt yn haeddiannol gyfartal ugain munud o’r diwedd diolch i Jordan Ayew. Gwyrodd ergyd Tom Carroll yn garedig i’w lwybr a gorffennodd y gŵr o Ghana’n daclus.

Tarodd Seamus Coleman y trawst i Everton wedi hynny ond roedd Abertawe’n haeddu pwynt o leiaf a dyna a gawsant.

Mae’r pwynt hwnnw’n rhoi tîm Carlos Carvalhal un ym mhellach o’r tri isaf o ran pwyntiau ond maent yn llithro i’r ail safle ar bymtheg oherwydd buddugoliaethau Crystal Palace y erbyn Brighton a Huddersfield yn erbyn Watford.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Mawson, Olsson, Ki Sung-yueng (Abraham 65’), King, Carroll, Narsingh (Dyer 45’), A. Ayew, J. Ayew

Gôl: J. Ayew 71’

Cerdyn Melyn: J. Ayew 55’

.

Everton

Tîm: Pickford, Cloeman, Jagielka, Keane, Baines, Schneiderlin, Gueye (Baningime 69’), Walcott, Rooney (Vlasic 87’), Bolasie (Funes Mori 76’), Tosun

Gôl: Naughton [g.e.h.] 43’

Cerdyn Melyn: Baningime 90+3’

.

Torf: 20,933