Diwedd mis Mai mae gêm nesaf tîm pêl droed Cymru yn Stadiwm enwog y Rose Bowl, yn Pasadena ger Los Angeles, ond mae un o golwyr Cymru, Owain Fôn Williams, yn America yn barod – i chwarae i dîm Indy Eleven.

Mae’r hogyn o Ben-y-groes, Dyffryn Nantlle yn Indianapolis ar fenthyg o Inverness Caledonian Thistle.

“Mae cael chwarae dramor yn rhywbeth dw i wedi gobeithio cael gwneud erioed, a pan gefais y cynnig i gael symud i America mi oedd o’n rhywbeth werth ei ystyried,” meddai Owain Fôn Williams wrth golwg360.

“Dw i ar fenthyg o ICTFC, ac mi fyddai yma efo Indy Eleven tan ddiwedd tymor yr United Soccer League cyn mynd yn ôl i’r Alban i ddarfod fy nghytundeb.”

Y drefn yn America

Mae’r USL yn adran o dan y Major League Soccer, sef adran gyntaf pêl-droed America, ac mae rheolwr tîm Indy Eleven, Martin Rennie, yn dod o’r Alban. Mae’r tymor yn mynd o fis Fawrth tan fis Hydref.

“Dw i’n mwynhau hyd yma, mae’n brofiad hollol wahanol i fi cael byw yn America. I fod yn onest, dw i wedi synnu efo’r safon, mae’n dda iawn, mae’n gêm dechnegol yma, ac mae’r hogiau yn eitha’ athletig.

“Mae pob diwrnod braidd yn debyg, yn ymarfer a pharatoi ar gyfer y gêm ar ddydd Sadwrn. Dydd Sul ydi’r unig ddiwrnod rhydd ar gael yma i gael rhoi fy nhraed i fyny.”

Rhan o  garfan Chris Coleman

Roedd Owain yn aelod o garfan Chris Coleman yn Ffrainc yn haf 2016, roedd wedi bod yn y garfan ers 2009 a chafodd ei gêm gyntaf yn erbyn yr Iseldiroedd mewn gêm gyfeillgar yn chwarae’r chwarter awr olaf yn 2015.

Roedd hi’n gêm yn gyfartal 2-2 ond fe ildiodd gôl i Arjen Robben, ac fe gollwyd y gêm 3-2.

“Mi oedd hi’n siom i golli allan ar gael mynd i Gwpan y Byd yr haf yma yn Rwsia, ond y peth pwysica’ rŵan ydi edrych ymlaen at yr ymgyrch nesa a cheisio ail adrodd yr haf gwych gawson ni yn 2016,” meddai.

“Mae dyfodol disglair i Gymru mewn gwaed newydd, ond mae’r hen sylfaen yn dal yna, sydd yn allweddol.”