Ebbsfleet 3–0 Wrecsam                                                                   

Mae Wrecsam i lawr i seithfed yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr ar ôl colli oddi cartref yn erbyn Ebbsfleet ar Stonebridge Road nos Fawrth.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, y tîm cartref aeth â hi yn y diwedd gyda goliau ail hanner Corey Whitely, Danny Kedwell a Luke Coulson.

Mae’r Dreigiau, sydd bellach heb ennill mewn pedair, yn llithro i’r seithfed safle yn y tabl, ddau bwynt yn unig uwch ben Dover sydd wedi chwarae un gêm yn llai.

.

Ebbsfleet

Tîm: Ashmore, McCoy, Clark, Whitely (Wabo 74’), Winfield, Coulson, Bush, Kedwell, Shiels (Weston 86’), Drury, Powell (Wilson 90+4’)

Gôl: Whitely 50’, Kedwell 83’, Coulson 90+4’

Cardiau Melyn: Powell 12’, McCoy 45’, Bush 65’

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Raven, Smith, Wright (Boden 82’), Jennings, Pearson, Rutherford (Mackreth 67’), Kelly, Deverdics, Ainge, Quigley

Cerdyn Melyn: Mackreth 90’

.

Torf: 1,376