Aberystwyth 2–1 Y Drenewydd                                                    

Aberystwyth a fydd yn wynebu Cei Connah yn rownd derfynol Cwpan Cymru y tymor hwn wedi iddynt drechu’r Drenewydd yn y rownd gynderfynol ar Faes Tegid, Y Bala, brynhawn Sul.

Rhoddodd dwy gôl Declan Walker Aber ar y blaen ac fe brofodd hynny’n ddigon er i Nick Rushton dynnu un yn ôl i’r Robiniaid.

Peniodd Walker Aberystwyth ar y blaen o groesiad crefftus John Owen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf ac felly yr arhosodd ti tan yr egwyl.

Dyblodd y cefnwr de fantais ei dîm yn gynnar yn yr ail hanner, yn curo David Jones o’r smotyn wedi i’r gôl-geidwad lorio Ryan Wade yn y cwrt cosbi.

Rhoddodd Rushton lygedyn o obaith i’r Drenewydd chwarter awr o’r diwedd, yn rhwydo cic o’r smotyn yn dilyn llawiad Ashley Young.

Rhy ychydig rhy hwyr a oedd hi i’r Robiniaid serch hynny wrth i Aberystwyth ddal eu gafael ar eu mantais i sicrhau eu lle yn y rownd derfynol yn erbyn Cei Connah ar ddiwedd y tymor.

.

Aberystwyth

Tîm: Mullock, Walker, Wollacott, Melvin, Hobson (Owens 68′), Owen, Wade (Borrelli 60′), Jones, Young, Allen, Phillips (Sherlock 77′)

Goliau: Walker 22’, [c.o.s.] 53’

Cardiau Melyn: Melvin 78′ Owen 90+3′

.

Y Drenewydd

Tîm: Jones, Kenton, Sears, Mills-Evans, Denny, Mitchell (Jones 60′), Rushton, Boundford, Kershaw, Williams, Fletcher

Gôl: Rushton [c.o.s.] 76’

Cardiau Melyn: Kershaw 18′, Williams 45′, D.Jones 52′, Mills-Evans 60′, Kershaw 90+2′

.

Torf: 504