Casnewydd 0–1 Stevenage                                                            

Llithrodd Casnewydd i hanner isaf yr Ail Adran wrth golli gartref yn erbyn Stevenage ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Chris Whelpdale unig gôl y gêm ychydig funudau cyn yr egwyl wrth i obeithion main yr Alltudion o gyrraedd y gemau ail gyfle ddiflannu’n llwyr.

Dau funud a oedd i fynd tan yr egwyl pan beniodd Whelpdale yr ymwelwyr ar y blaen o groesiad Ronnie Henry.

Cafodd Danny Newton gyfleoedd i ddyblu mantais Stevenage wedi’r egywl ond roeddynt wedi gwneud digon i sicrhau’r tri phwynt.

Mae’r canlyniad yn gadael Casnewydd yn drydydd ar ddeg yn y tabl gyda chwe gêm yn weddill.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe (Reid 77’’), White, Demetriou, Butler, Willmott, Tozer (Jackson 81’), Dolan, Collins (Sheehan 60’), Amond, Nouble

Cerdyn Melyn: Butler 75’

.

Stevenage

Tîm: King, Henry, Wilkinson, King, Martin, Amos, Sheaf (Godden 82’), Kennedy (Gorman 67’), Whelpdale, Revell (Franks 88’), Newton

Gôl: Whelpdale 43’

Cardiau Melyn: Sheaf 20’, Amos 71’, Franks 90+6’

.

Torf: 4,007