Mae gêm gyntaf rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru yn cael ei chynnal heno yn Y Rhyl rhwng y Dinasyddion o Fangor a Chei Connah o Lannau Dyfrdwy (7.35).

Bydd y ddau dîm yn ceisio canolbwyntio ar y gêm fawr ar ôl y newyddion ddoe bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gwrthod y drwydded ddomestig am dymor 2018/19 i’r ddau glwb.

Mae amddiffynnwr y Dinasyddion, Guto Williams yn edrych ymlaen at y gêm.

Dywedodd wrth golwg360: “Bydd hi yn gêm anodd wrth gwrs yn erbyn Cei Connah.

“Rydan ni fel tîm yn hynod o hyderus y gallwn ni gyrraedd y ffeinal. Basa’n meddwl lot i ni fel tîm i gyrraedd y rownd derfynol. Basa’n neis cal y cyfle i godi’r gwpan enwog.

“Gobeithio ga’i ddechrau’r gêm ond ar ddiwedd y dydd, sicrhau ein bod yn cael y canlyniad ydi’r nod. Ar hyn o bryd, dw i’n hapus gyda fy mherfformiadau, dw i’n teimlo fel ’mod i’n gwneud yn dda ac eisiau parhau i wneud hyn am weddill y tymor.”

Hanes

Hon fydd gêm gyn-derfynol gyntaf Bangor ers pum mlynedd, a bydd tîm Andy Morrison yn gobeithio cyrraedd y rownd derfynol am yr eildro yn eu hanes.

Mae’r clybiau wedi cwrdd bedair gwaith eisoes y tymor hwn. Mae Bangor wedi ennill tair a Chei un, yng Nghwpan Nathaniel.

Mae’r gic gyntaf am 19.35, a’r gêm yn fyw ar S4C.