Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Carlos Carvalhal wedi galw am gynnal y momentwm wrth iddyn nhw deithio i West Brom ar gyfer gêm bwysig yn Uwch Gynghrair Lloegr heddiw (3 o’r gloch).

Roedd perfformiad yr Elyrch yn yr ail hanner yn erbyn Man U yn Old Trafford wythnos yn ôl yn addawol, er iddyn nhw golli o 2-0.

Mae West Brom yn y gwaelodion, ddeg pwynt i ffwrdd o’r safleoedd diogel, ac mae Darren Moore yng ngofal y tîm ar ôl i’r rheolwr Alan Pardew gael ei ddiswyddo.

Byddai buddugoliaeth i’r Elyrch, sy’n bymthegfed yn y tabl, yn gam mawr ymlaen yn eu brwydr i osgoi disgyn i’r Bencampwriaeth.

Dywedodd Carlos Carvalhal: “Fe lwyddon ni i gael momentwm yn yr ail hanner ym Manchester United ac mae’n fan cychwyn da ar gyfer y gêm hon.

“Fe gawson ni ail hanner da iawn, fe wnaethon ni gyflawni rhywbeth yn y ffordd wnaethon ni chwarae ac ar ddydd Sadwrn, rydyn ni eisiau perfformiad tebyg er mwyn ennill pwyntiau.

“Mae gyda ni lwybr hir i aros yn yr Uwch Gynghrair, a bydd yr holl dimau’n anodd. Mae gyda ni saith gêm yn weddill ac rydyn ni’n gwybod ar ôl y gêm hon fod gyda ni bedair gêm gartref a dwy gêm oddi cartref.”

Ychwanegodd: “All neb ganu cyn y chwiban olaf. Allwch chi ddim canu cyn bod pethau ar ben, neu fe fyddwch chi yn yr awyr â’ch cefn at y llawr.”

Y timau

Mae disgwyl i’r chwaraewr canol cae Sam Clucas ddychwelyd i dîm Abertawe ar ôl anafu ei ben-glin.

Mae Renato Sanches ac Angel Rangel, y capten, allan o hyd, ac mae Jordan Ayew wedi’i wahardd o hyd.

Mae Nacer Chadli a Daniel Sturridge allan o hyd i West Brom. Mae disgwyl i Gareth Barry fod allan am weddill y tymor yn dilyn llawdriniaeth ar ei ben-glin.