Heno fe fydd Caerdydd yn wynebu’r unig dîm sy’n uwch na nhw yn y Bencampwriaeth.

Wolverhampton Wanderers sydd ar frig y gynghrair – ond pe bai Caerdydd yn eu curo gartref heno, fyddai’r clwb o Gymru ond tri phwynt tu ôl i’r tîm o ganolbarth Lloegr.

Ac mae Caerdydd ar rediad rhagorol, gyda naw buddugoliaeth yn eu 11 gêm olaf, a heb golli’r un o’r rheiny.

Fe lwyddodd yr Adar Gleision i gipio pwynt gwerthfawr ym munudau ola’r gêm oddi cartref yn Sheffield United nos Lun, gan sgorio gôl gwyr a chael gêm gyfartal 1-1.

Ers colli i Fulham ac Aston Villa, mae Wolves wedi llwyddo i osgoi colli yn eu pedair gêm olaf, a chael gêm gyfartal yn eu gêm ddiweddaraf yn erbyn Hull.

A nôl ym mis Awst fe lwyddodd Caerdydd i gipio buddugoliaeth 2-1 oddi cartref yn Wolverhampton.

Ar ben hynny, mae tîm y brifddinas wedi ennill pedair o’u pum gêm gynghrair olaf yn y Bencampwriaeth yn erbyn Wolves, gan gynnwys y ddwy gêm olaf yn Stadiwm Caerdydd.

Y gêm yn fyw ar Sky Sports gyda’r gic gyntaf am 7.45.