Man U 2–0 Abertawe
Colli fu hanes Abertawe wrth iddynt ymweld ag Old Trafford i herio Man U yn Uwch Gynghrair Lloegr brynhawn Sadwrn.
Mae’r Elyrch yn aros yn y frwydr tua’r gwaelodion wedi i goliau hanner cyntaf Lukaku a Sanchez sicrhau’r tri phwynt i’r tîm cartref.
Aeth Man U ar y blaen wedi dim ond pum munud, Romelu Lukaku yn curo Lukasz Fabianski gyda chymorth gwyriad wedi cyd chwarae effeithiol gan Jesse Lingard ac Alexis Sanchez.
Cyfunodd Sanchez a Lingard ar gyfer ail y tîm cartref wedi ugain munud hefyd, y gŵr o Chile yn rhwydo wedi rhagor o waith creu gan Lingard.
Bu rhaid aros am awr o chwarae cyn i Abertawe daro’r targed am y tro cyntaf, Tammy Abraham a wnaeth hynny ond roedd David de Gea yn effro yn y gôl i Man U.
Rhwydodd Martin Olsson i’r Elyrch wedi hynny ond roedd y dyfarnwr wedi gweld trosedd a ni chafodd y gôl ei chaniatáu.
Mae’r canlyniad hwn ynghyd â buddugoliaethau West Ham a Newcastle yn achosi i dîm Carlos Carvalhal lithro i’r pymthegfed safle yn y tabl, dri phwynt yn unig uwch ben safleoedd y gwymp.
.
Man U
Tîm: de Gea, Valencia, Smalling, Lindelof, Young, Matic, Pogba, Mata (McTominay 90+1’), Lingard (Herrera 76’), Sanchez (Rashford 75’), Lukaku
Goliau: Lukaku 5’, Sanchez 20’
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, van der Hoorn, Fernandez, Mawson, Naughton, King, Ki Sung-yueng (Carroll 45’), Clucas (Routledge 56’), Olsson, Dyer (Abarham 45’), A. Ayew
.
Torf: 75,038