Fe fydd y pencampwyr Y Seintiau Newydd yn teithio i Fangor heddiw, gyda’r gystadleuaeth rhwng y timau eraill sy’n cystadlu am le yng nghystadlaethau Ewrop yn poethi.

Mae tri lle ar gael o hyd ar ôl i’r Seintiau Newydd gadarnhau eu lle yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr. Bydd y tîm sy’n gorffen yn ail yn y gynghrair, pencampwyr Cwpan Cumru ac enillwyr y gemau ail gyfle yn cael lle yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa.

Aeth chwe blynedd heibio ers i Fangor orffen yn ail ond dyna’r nod i dîm Kevin Nicholson y tymor hwn. Ond mae tri thîm yn cystadlu am yr ail safle gyda dim ond dau bwynt rhyngddyn nhw. Bydd angen iddyn nhw i gyd herio’r pencampwyr cyn diwedd y tymor.

 

Mae’r Seintiau wedi selio eu 12fed pencampwriaeth, a’r seithfed yn olynol yn nhymor cyntaf Scott Ruscoe wrth y llyw.

Ond yn y bedair blynedd diwethaf mae’r Seintiau wedi colli o leiaf unwaith ym mhob tymor ar ôl sicrhau’r bencampwriaeth.

Mae’r Seintiau hefyd wedi colli eu tair gêm ddiwethaf yn Nantporth (dwy yn erbyn Bangor a ffeinal Cwpan Cymru yn erbyn Y Bala).

Bydd uchafbwyntiau holl gemau UG Cymru i’w gweld ar Sgorio ddydd Mawrth am 5:35 ar S4C.