Casnewydd 1–2 Crewe                                                                     

Mae gobeithion main Casnewydd o gyrraedd gemau ail gyfle’r Ail Adran yn prysur ddiflannu wedi iddynt golli yn erbyn Crewe ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Mae deg pwynt bellach yn gwahanu’r Alltudion a’r saith uchaf wedi iddynt golli gartref yn erbyn tîm o’r gwaelodion.

Rhoddodd Harry McKirdy yr ymwelwyr ar y blaen gyda gôl unigol dda ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.

Gallai Casnewydd fod wedi cael cic o’r smotyn ar ddechrau’r ail hanner ond nid felly y bu  a dyblodd Jordan Bowery fantais Crewe ar yr awr.

Rhoddodd Mickey Demetriou lygedyn o obaith i’r tîm cartref ddeg munud o’r diwedd gyda pheniad o groesiad Matthew Dolan, ond daliodd yr ymwelwyr eu gafael ar y fantais wedi hynny.

Mae’r canlyniad yn gadael tîm Mike Flynn yn ddeuddegfed yn y tabl, ddeg pwynt o’r safleoedd ail gyfle gyda dim ond wyth gêm yn weddill.

.

Casnewydd

Tîm: Day, White, O’Brien, Demetriou, Willmott, Tozer, Sheehan (Nouble 57’), Dolan, Butler, Amond (Hayes 57’), Collins (McCoulsky 70’)

Gôl: Demetriou 81’

.

Crewe

Tîm: Garratt, Ng, Ray, Nolan, Pickering, Ainley, Lowrey (Jones 45’), Grren, Kirk (Raynes 85’), MicKirdy (Dagnall 78’), Bowery

Goliau: McKirdy 26’, Bowery 60’

Cerdyn Melyn: Ng 83’

.

Torf: 4,638