Mae’r croeso yn Tsieina wedi bod yn “agoriad llygad” i gefnwr de tîm pêl-droed Cymru, Chris Gunter.

Mae e ymhlith hoff chwaraewyr y cefnogwyr sydd wedi heidio i wylio Cymru yng Nghwpan Tsieina – ac yn cael bron cymaint o sylw â Gareth Bale.

Mae un o’r cefnogwyr yn dweud ei bod hi wedi treulio tair awr bob dydd am ddeufis yn darlunio’i hoff chwaraewr yn galw ar y cefnogwyr i gefnogi’r tîm ym munudau ola’r gêm yn erbyn Lloegr yn Ewro 2016.

Dywedodd Chris Gunter: “Ces i gwpwl o negeseuon ar Twitter cyn i fi ddod yma ond do’n i ddim wir yn gwybod beth i’w ddisgwyl.

“Mae ambell un yn fwy brwdfrydig na’i gilydd, ond dw i ddim yn credu y galla i gystadlu â Gareth o ran niferoedd.”

Bydd Cymru’n herio Wrwgwái yn rownd derfynol y gystadleuaeth ddydd Llun.

‘Parchus’

Mae Chris Gunter yn dweud bod y croeso i’r tîm wedi bod yn “gwrtais a pharchus” a bod y gefnogaeth wedi bod yn “agoriad llygad”.

“Mae’n wych ac yn dangos yn nhermau Cymru fel gwlad pa mor bell ry’n ni’n estyn allan.”

Chris Gunter, ac eithrio gôl-geidwaid, sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau dros Gymru, wrth chwarae yng ngêm rhif 86 ei yrfa ryngwladol yn erbyn Tsieina ddydd Iau, wrth i Gymru ennill o 6-0.

Mae e chwe chap i ffwrdd o dorri record capiau Neville Southall.

“Mae cerrig milltir yn dod o hyd,” meddai. “Mae pobol yn dweud ei bod yn dod ond mae cael bod yn ail ar noson pan gawson ni’r canlyniad a’r perfformiad yn noson dda.