Ar ôl i’w dîm golli o 1-0 yn Bosnia ddydd Gwener, dywedodd rheolwr tîm pêl-droed dan 21 Cymru, Robert Page y dylen nhw fod wedi cael cic o’r smotyn a fyddai wedi sicrhau gêm gyfartal.

Mae gobeithion Cymru o gyrraedd Pencampwriaethau Ewrop y flwyddyn nesaf ar ben i bob pwrpas yn dilyn y canlyniad siomedig yn Zenica.

Roedd tîm cryf Cymru’n cynnwys prif sgoriwr yr ymgyrch, George Thomas yn ogystal â David Brooks, sy’n gwella o salwch ac a gafodd ei ryddhau i’r garfan gan reolwr prif garfan Cymru, Ryan Giggs.

Ond Bosnia ddechreuodd y gêm orau gyda chyfres o ergydion cynnar at y golwr Luke Pilling.

Daeth cyfle gorau’r hanner cyntaf i Brooks, wrth i’w gic rydd fynd heibio’r postyn ond Bosnia oedd yn fwyaf ymosodol yn yr ail hanner cyn iddyn nhw fynd ar y blaen drwy ergyd o 30 llathen gan Darko Todorovic i gornel ucha’r rhwyd.

Cymru’n taro’n ôl

Ond wrth chwilio am y gôl i unioni’r sgôr, daeth Daniel James a Rabbi Matondo i’r cae yn eilyddion, ac fe gynyddodd y pwysau ar Bosnia.

Fe ddylai Cymru fod wedi cael cic o’r smotyn pan gafodd David Brooks ei lorio yn y cwrt cosbi, ac fe aeth ergyd hwyr Rabbi Matondo dros y trawst.

Wrth ymateb i’r penderfyniad dadleuol i wrthod y gic o’r smotyn, dywedodd Robert Page: “Fe gawson ni dri chyfle gwych ac roedd rhaid i ni eu trosi nhw.

“Os nad ydych chi’n gwneud hynny, dydych chi ddim yn haeddu unrhyw beth, ond fe ddylen ni fod wedi cael cic o’r smotyn.”

Mae’r canlyniad yn rhoi Cymru bum pwynt y tu ôl i Bosnia a Rwmania, ac mae ganddyn nhw gemau allweddol i ddod gartref yn erbyn Liechtenstein a Phortiwgal.