Mae Ryan Giggs wedi cyfaddef y bydd yn llawer mwy nerfus nag yr oedd tra’n chwaraewr ei hun i Manchester United, pan fydd yn rheoli Cymru am y tro cynta’ fory (dydd Iau, Mawrth 22).

Fe fydd Cymru’n chwarae eu gem gyntaf ym mhencampwriaeth Cwpan Tsieina yn erbyn y tîm cartref yn Nanning.

“Rwy’n falch o gael bod yn rheolwr Cymru ac i fod yn hyfforddi’r criw yma o chwaraewyr,” meddai Ryan Giggs, mewn cynhadledd i’r wasg heddiw.

“Byddaf yn llawer mwy nerfus nag yr oeddwn i pan yn chwaraewr… mae rheoli yn gwbwl wahanol, gan fod cymaint o bethau i’w hystyried.”