Fe fyddai un o bob tri o bobol gwledydd Prydain yn cefnogi tim Lloegr pe bai’n penderfynu peidio mynd i Gwpan y Byd yn Rwsia eleni.

Mae’r pôl gan gwmni YouGov ar gyfer papur newydd The Times yn dweud bod 34% o’r 1,986 o bobol a gafodd eu holi, o blaid tynnu carfan Gareth Southgate allan o rownd derfynol cystadleuaeth bel-droed fwya’r byd.

Roedd 39% yn ymwrthod â’r syniad yn llwyr, meddai YouGov, a 27% yn ansicr.

O blith y rheiny oedd yn ffans pêl-droed, roedd 32% o blaid boicotio Rwsia, a 56% yn credu y dylai’r tîm gymryd rhan yn y bencampwriaeth.

O blith y ffans pêl-droed, roedd 12% ddim yn siwr be’ ddylai tîm Lloegr ei wneud.

Mae Aelodau Seneddol wedi codi cwestiynau ynglyn â rhan tîm Lloegr yng Nghwpan y Byd, yn dilyn ymosodiad gwenwyn Salisbury a materion yn ymwneud â diogelwch cefnogwyr sy’n meddwl teithio yno ar gyfer y gystadleuaeth sy’n dechrau ar Fehefin 14.

Maen nhw hefyd yn pryderu fod yr arlywydd, Vladimir Putin, yn “defnyddio” chwaraeon yn rhan o ymgyrch PR fawr i Rwsia.