Abertawe 0–3 Tottenham                                                               

Mae Abertawe allan o’r Cwpan FA ar ôl colli yn erbyn Tottenham ar y Liberty yn yr wyth olaf brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Christien Eriksen ddwy waith i Spurs mewn buddugoliaeth gyfforddus.

Rhoddodd Eriksen yr ymwelwyr ar y blaen wedi deg munud, yn crymanu’r bêl yn gelfydd i gefn y rhwyd o ugain llath.

Gôl eithaf tebyg oedd un Erik Lamela a roddodd Spurs ddwy gôl ar y blaen yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf, ergyd isel gywir o du allan i’r cwrt cosbi yn curo Kristoffer Nordfeldt yn y gôl.

Parhau i reoli a wnaeth Tottenham wedi’r egwyl gan sicrhau eu lle yn y rownd gynderfynol gydag ail gôl Eriksen toc wedi’r awr, ergyd arall o bellter, gyda’r pŵer yn trechu Nordfeldt y tro hwn.

Ymgyrch yr Elyrch yn y Cwpan ar ben felly ond gall Carlos Carvalhal a’i dîm ganolbwyntio ar aros yn Uwch Gynghrair Lloegr am weddill y tymor yn awr.

.

Abertawe

Tîm: Nordfeldt, Naughton (Narsingh 45’), van der Hoorn (Roberts 81’), Mawson, Naughton, Carroll, Ki Sung-yueng, Clucas, Olsson, Dyer (Routledge 86’), Abraham

.

Tottenham

Tîm: Vorm, Trippier, Sanchez, Vertonghen, Davies, Sissoko, Dier, Eriksen, Lucas Mora (Llorente 73’), Son Heung-min (Alli 81’), Lamela

Goliau: Eriksen 11’, 62’, Lamela 45+1’

Cerdyn Melyn: Sanchez 69’

.

Torf: i ddilyn