Fe fydd yn rhaid i Abertawe guro Spurs brynhawn fory yn Stadiwm Liberty y tro cyntaf ers 1991 os ydyn nhw am gyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan FA Lloegr.

Pe baen nhw’n llwyddo i wneud hynny, bydden nhw’n cyrraedd y pedwar olaf am y tro cyntaf ers 1964 – y flwyddyn cyn i reolwr yr Elyrch, Carlos Carvalhal gael ei eni.

Ond mae’r Elyrch yn dechrau’r gêm heb eu tri phrif ymosodwr, gan fod Wilfried Bony allan am weddill y tymor ag anaf, Jordan Ayew wedi’i wahardd ac Andre Ayew yn methu chwarae oherwydd rheolau’r gystadleuaeth yn dilyn ei drosglwyddiad o West Ham ym mis Ionawr.

Mae hynny’n golygu mai dibynnu ar Tammy Abraham i arwain yr ymosod y bydd yr Elyrch, sydd hefyd heb y Cymro Andy King, sydd hefyd yn methu chwarae yn y gystadleuaeth hon.

‘Angen chwarae’

Yn ôl Carlos Carvalhal, roedd Tammy Abraham yn “fwy hunanol” ar ddechrau’r flwyddyn, ond mae’n dweud ei fod e bellach “yn gwella, ond mae angen iddo fe chwarae”.

Ac yn ôl y rheolwr, mae absenoldeb rhai o’r ymosodwyr yn golygu y bydd e’n cael digon o gyfle i chwarae rhwng nawr a diwedd y tymor.

“Wrth gwrs y bydd e’n cael mwy o gyfleoedd nawr bod Jordan [Ayew] allan. Mae’r sefyllfaoedd hyn bob amser yn cynnig cyfleoedd.

“Mae ganddo fe gyfle i ddangos ei allu a bod yn bresenoldeb, ond fyddwn ni ddim yn rhoi pwysau mawr arno fe. Rhaid iddo fe wneud pethau’n naturiol.”

Yn ogystal ag arwain yr ymosod, mae Carlos Carvalhal hefyd yn gweld ei botensial fel chwaraewr amddiffynnol.

“Yr hyn dw i’n ei hoffi, o’i gymharu â’r gorffennol, yw pan wnes i ddod â fe ymlaen yn Huddersfield pan oedden ni’n amddiffyn.

“Pan wnes i gyrraedd, pe baech chi wedi gofyn a fyddwn i’n gallu rhoi Tammy mewn sefyllfa fel hyn, fyddwn i ddim wedi’i roi e ymlaen am y 15 munud olaf oherwydd fe fyddai e wedi chwarae’n hollol wahanol.

“Mae e’n dechrau deall ei fod e’n rhan o’r grŵp, a bod y grŵp yn bwysicach na’r unigolyn. Mae e’n deall yn iawn fod rhaid iddo fe wneud gwaith tîm.

“Allai e ddim gwneud hyn ar y dechrau. Roedd e’n fwy o unigolyn ac ychydig yn fwy hunanol”.

Talcen caled

Dyma’r tro cyntaf erioed i’r ddau dîm herio’i gilydd yng Nghwpan FA Lloegr, er eu bod nhw wedi chwarae mewn 45 o gemau ym mhob cystadleuaeth.

Mae Spurs yn ddi-guro yn eu 15 gêm ddiwethaf yn erbyn yr Elyrch, ac maen nhw eisoes wedi curo’r Elyrch (o 2-0) yn Stadiwm Liberty y tymor hwn.

Dydi Spurs ddim wedi cyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan FA Lloegr ddau dymor yn olynol ers 1981 a 1982 – nhw enillodd y gystadleuaeth yn ystod y ddau dymor hynny.

Mae Spurs eisoes wedi curo Casnewydd yn y gystadleuaeth y tymor hwn. Pe baen nhw’n curo Abertawe hefyd, byddan nhw’n efelychu camp Southend yn 1975-76 o guro dau dîm o Gymru yn y gystadleuaeth yn ystod yr un tymor.

Yn 1964, llwyddodd yr Elyrch i gyrraedd rownd gyn-derfynol y gystadlaeuth drwy guro Lerpwl yn rownd yr wyth olaf, ond fe gollon nhw o 2-1 yn erbyn Preston North End yn Villa Park.