Mae Ryan Giggs wedi enwi pum chwaraewr newydd yn nhîm pêl droed Cymru cyn i’r garfan gystadlu yng Nghwpan Tsieina wythnos i heddiw.

Yr enwau newydd fydd yn ymuno â’r tîm o 26 o chwaraewyr yw Billy Bodin, Chris Mepham, Chris Maxwell, Michael Crowe a Connor Roberts.

Bydd canolwr Cymru, Aaron Ramsay, ddim yn ymuno â’r crysau cochion yn Tsieina am ei fod ar fin cael “llawdriniaeth fechan”.

“Mae’n mynd i gael triniaeth fechan. Dyma’r amser delfrydol yn y saib rhyngwladol i gael hyn wedi’i wneud,” meddai’r hyfforddwr newydd wrth gyhoeddi’r garfan yn Amgueddfa Sain Ffagan, Caerdydd.

“Mae’n ergyd am ei fod yn chwaraewr o ansawdd, ond dyma’r peth gorau i wneud i’r dyfodol ac i Aaron.”

Daeth y cyhoeddiad heddiw fod y canolwr David Edwards yn ymddeol o chwarae pêl droed rhyngwladol a bydd y golwr, Danny Ward, ddim yn teithio gyda’r garfan am fod problemau gyda’i fisa ar ôl i’w basbort fynd ar goll yn y post.

Cwpan Tsieina fydd prawf cyntaf Ryan Giggs yn rheolwr. Mae wedi cadw Osian Roberts, a aeth am swydd hyfforddwr, yn rhan o’r tîm rheoli.

Y garfan:

Wayne Hennessey, Chris Maxwell, Michael Crowe, Ashley Williams, James Chester, Ben Davies, Chris Gunter, Neil Taylor, Declan John, Ethan Ampadu, Connor Roberts, Chris Mepham, Tom Lockyer, Joe Allen, Andy King, Joe Ledley, Ryan Hedges, Lee Evans, Marley Watkins, Tom Lawrence, Ben Woodburn, Sam Vokes, Gareth Bale, Harry Wilson, Billy Bodin, Tom Bradshaw.