Mae Clwb Pêl-droed Tottenham Hotspur wedi ymddiheuro ar ôl i holiadur a gafodd ei anfon at gefnogwyr Americanaidd ofyn, “Ai yn y cartref y mae lle’r ferch?”

Mewn datganiad, dywedodd y clwb mai asiantaeth allanol oedd yn gyfrifol am lunio’r holiadur, a bod y cwestiwn yn “gwbwl annerbyniol”. Mae lle i gredu mai Kantar Media yw’r asiantaeth honno.

Mae nifer sylweddol o gefnogwyr Americanaidd wedi tynnu sylw at y cwestiwn ar wefannau cymdeithasol, yn dilyn e-bost gan y clwb nos Fawrth yn eu gwahodd i “ddweud wrthom beth ydych chi’n ei feddwl”.

Cafodd cyfres o osodiadau eu cynnig i’r cefnogwyr, gan ofyn i ba raddau roedden nhw’n cytuno â nhw – “yn sicr yn cytuno”, “yn dueddol o gytuno”, “ddim yn cytuno nac yn anghytuno”, “yn dueddol o anghytuno” ac “yn sicr yn anghytuno”.

Ymddiheuriad

Mewn datganiad nos Fawrth, dywedodd y clwb eu bod nhw wedi dileu’r cwestiwn ar unwaith ar ôl ei ddarganfod.

“Mae cynnwys y cwestiwn hwn yn holiadur y clwb yn gwbwl annerbyniol ac yn gamgymeriad anffodus.

“Rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant i unrhyw un a gafodd ei sarhau gan y ffaith iddo gael ei gynnwys yn y lle cyntaf.”

Mae 50% o fwrdd cyfarwyddwyr Clwb Pêl-droed Tottenham Hotspur yn ferched.