Yeovil 0–2 Casnewydd
Sgoriodd Sheehan a Hayes wrth i Gasnewydd guro Yeovil yn y gêm Ail Adran ar Huish Park brynhawn Sadwrn.
Yeovil a oedd y tîm gorau mewn hanner cyntaf di sgôr ond roedd yr ymwelwyr o Gymru’n well wedi’r egwyl.
Aethant ar y blaen toc cyn yr awr pan rwydodd Josh Sheehan wedi gwaith creu Ben White.
Bu rhaid aros tan yr eiliadau olaf i sicrhau’r tri phwynt serch hynny pan greodd Frank Nouble yr ail gôl i Paul Hayes yn yr amser a ganiateir am anafiadau.
Mae’r canlyniad yn codi’r Alltudion i’r unfed safle ar ddeg yn nhabl yr Ail Adran, bum pwynt o’r safleoedd ail gyfle gyda deg gêm yn weddill.
.
Yeovil
Tîm: Maddison, Whelan, Sowunmi, James, Dickson, Green (Browne 70’), Smith, Wing, Khan (Fisher 77’), Surridge (Barnes 60’), Zoko
Cerdyn Melyn: Zoko 45+2’
.
Casnewydd
Tîm: Day, White, Tozer, Demetriou, Sheehan, Dolan (Bennett 81’), Willmott (Collins 84’), Labadie, Butler, Amond (Nouble 56’), Hayes
Goliau: Sheehan 57’, Hayes 90+4’
Cardiau Melyn: Hayes 67’, Labadie 83’
.
Torf: 2,880