Casnewydd 3–3 Forest Green                                                       

Sgoriodd Dan Butler yn y ddau ben wrth i Gasnewydd gael gêm gyfartal yn erbyn Forest Green yn yr Ail Adran nos Fawrth.

Roedd y tîm cartref ar y blaen gyda deg munud i fynd ar Rodney Parade ond bu rhaid iddynt fodloni ar bwynt yn unig yn y diwedd wedi gôl hwyr Lee Collins i Forest Green.

Rhoddodd Butler y bêl yn ei rwyd ei hun wedi chwe munud cyn unioni’r sgôr gyda gôl yn y pen iawn dri munud yn unig yn ddiweddarach!

Roedd Butler yn ei chanol hi eto wyth munud wedi hynny, yn creu’r ail i Paul Hayes wrth i Gasnewydd fynd ar y blaen.

Unionodd Gavin Gunning i’r ymwelwyr wedi hynny ond roedd yr Alltudion yn ôl ar y blaen drachefn cyn yr egwyl diolch i ail gôl Hayes.

Distawodd pethau wedi’r egwyl ac roedd hi’n ymddangos fod Casnewydd yn mynd i ddal eu gafael ar y fuddugoliaeth cyn i Collins gipio pwynt i’r ymwelwyr wyth munud o ddiwedd y naw deg.

Mae’r canlyniad yn codi Casnewydd i’r trydydd safle ar ddeg yn y tabl, wyth pwynt o’r safleoedd ail gyfle.

.

Casnewydd

Tîm: Day, White, O’Brien (Osadebe 69’), Demetriou, Pipe, Willmott (Sheehan 85’), Tozer, Dolan, Butler, Amond, Hayes (Jackson 66’)

Goliau: Butler 9’, Hayes 17’ 38’

Cardiau Melyn: Butler 26’

.

Forest Green

Tîm: B. Collins, Bennett, Gunning, Rawson, Hollis, Bray (Brown 78’), Clements (L. Collins 66’), Osbourne, Grubb, Doidge (Wishart 59’), Reid

Goliau: Butler [g.e.h.] 6’, Gunning 30’, L. Collins 82’

.

Torf: 2,862