Mae Clwb Pêl-droed Birmingham wedi penodi cyn-reolwr Garry Monk ar gytundeb tair blynedd a hanner.

Roedd y Sais wrth y llyw yn Stadiwm Liberty yn 2014-15 ar ôl bod yn chwaraewr ac yn gapten ar y clwb am ddegawd rhwng 2004 a 2014.

Aeth i Leeds wedyn a sicrhau seithfed safle i’r clwb yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf cyn mynd i Middlesbrough.

Cafodd ei ddiswyddo gan Middlesbrough ym mis Rhagfyr er i’r tîm guro Sheffield Wednesday oedd yn cael eu rheoli ar y pryd gan reolwr presennol Abertawe, Carlos Carvalhal.

Yn ymuno â Monk yn Birmingham mae dau o gyn-hyfforddwyr Abertawe, Pep Clotet a James Beattie, yn ogystal â Darryl Flahavan.

Dywedodd y clwb mewn datganiad fod Garry Monk yn “un o reolwyr ifainc mwyaf disglair y gamp”.

Cafodd ei ragflaenydd, Steve Cotterill ei ddiswyddo ddydd Sadwrn ar ôl colli am y pumed tro yn olynol – a hynny yn erbyn Nottingham Forest. Mae Birmingham ddau bwynt islaw’r safleoedd diogel.