Bangor 7–0 Penydarren                                                                   

Daeth stori dylwyth teg Penydarren yng Nghwpan Cymru i ben wrth iddynt gael crasfa gan Fangor yn y rownd go-gynderfynol yn Nantporth brynhawn Sul.

Roedd y tîm sydd yn chwarae ym mhumed haen pêl droed y de wedi gwneud yn wych i gyrraedd wyth olaf y Cwpan, ond dyna oedd diwedd y daith wrth i Luke Wall ac Yves Zama sgorio hatric yr un mewn buddugoliaeth gyfforddus.

Dechreuodd Penydarren yn dda a hwy a gafodd y cyfle cyntaf ond peniodd Chris Calvin heibio’r postyn.

Dechreuodd Bangor reoli yn raddol ac roeddynt ar y blaen wedi deg munud diolch i ergyd wych Wall i’r gornel uchaf o bum llath ar hugain.

Dyblodd Steven Hewitt fantais y Dinasyddion hanner ffordd trwy’r hanner, yn rhwydo wedi i Jonathan Green arbed ergyd wreiddiol George Harry.

Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ond roedd hi’n dair i ddim wedi dim ond dau funud o’r ail hanner wrth i Zama benio i gefn y rhwyd o groesiad gwych Tom Kennedy.

Sgoriodd Wall ei ail ef a phedwaredd ei dîm yn fuan wedyn, yn crymanu ergyd droed chwith hyfryd i’r gornel uchaf.

Rhwydodd Zama ei ail ef gyda bwled o ergyd o ongl dynn i ymestyn y fantais i bum gôl wedi 70 munud.

Cafodd Josh Brogden gyfle yn y pen arall wedi hynny ond gwnaeth Connor Roberts yn y gôl yn dda i’w atal.

Ras rhwng Wall a Zama i gwblhau hatric a oedd hi ym munudau olaf y gêm felly a Wall enillodd, yn rhedeg heibio’r amddiffyn yn rhy rhwydd o lawer i sgorio ei drydedd ef saith munud o’r diwedd.

Cafodd Zama ei drydedd ef hefyd, yn rhwydo o’r smotyn yn yr eiliadau olaf wedi trosedd Asa Lloyd ar Gethin Thomas yn y cwrt cosbi.

Cafodd y dair gêm arall yn y rownd wyth olaf eu gohirio oherwydd yr eira.

.

Bangor

Tîm: Hall (Roberts 66’), Kennedy, Wall, Miley, Zama, Gosset, Hewitt (Thomas 65’), Rittenberg, Bembo-Leta, Harry (Williams 65’), Holmes

Goliau: Wall 11’, 51’, 83’, Hewitt 24, Zama 47’, 70’ [c.o.s.] 90+1’

Cerdyn Melyn: Hewitt 49’

.

Penydarren

Tîm: Green, Pike, Gamble, Alex Lloyd, Gibbons, Lewis (Kinsey 62’), Sullivan (Williams 54’), Asa Lloyd, Jones, Brogden, Colvin (Keating 62’)

Cardiau Melyn: Gibbons 45’, Asa Lloyd 90’

.

Torf: 694