Abertawe 4–1 West Ham                                                                

Cododd Abertawe o waelodion Uwch Gynghrair Lloegr gyda buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn West Ham ar y Liberty brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd yr Elyrch ddwy waith ym mhob hanner i roi crasfa i’r ymwelwyr o Lundain.

Rhoddodd Ki Sung-yueng y tîm cartref ar y blaen gydag ergyd isel wedi dim ond wyth munud.

Chwaraeodd y gŵr o Dde Corea ei ran yn ail gôl ei dîm chwarter awr cyn yr egwyl hefyd wrth i Mike van der Hoorn benio ei gic gornel i gefn y rhwyd.

Dwy i ddim wrth droi felly ac roedd hi’n dair yn gynnar yn yr ail hanner wrth i Andy King rwydo wedi i Adrian arbed peniad gwreiddiol Andre Ayew.

Andre Ayew a greodd y bedwaredd hefyd toc wedi’r awr, yn cael ei lorio yn y cwrt cosbi gan Cheik Kouyate. Ei frawd, Jordan Ayew, a gymerodd y gic or smotyn gan rwydo o ddeuddeg llath.

Roedd gôl gysur i Michail Antonio wedi hynny ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi i’r ymwelwyr.

Mae’r canlyniad yn codi’r Elyrch o’r tri isaf, dros West Ham, yr holl ffordd i’r trydydd safle ar ddeg.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, van der Hoorn, Fernandez, Mawson, Naughton, King (Carroll 81’), Ki Sung-yueng, Clucas, Olsson, A. Ayew (Dyer 78’), J. Ayew

Goliau: Ki Sung-yueng 8’, van der Hoorn 32’, King 48’, J. Ayew [c.o.s.] 63’

.

West Ham

Tîm: Adrian, Rice, Reid (Byram 27’), Cresswell, Zabaleta, Kouyate, Noble, Evra (Antonio 45’), Arnautovic, Hernandez, Lanzini

Gôl: Antonio 79’

Cardiau Melyn: Nouble 41’, Kouyate 66’, Arnautovic 66’

.

Torf: 20,829