Mae’n rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Cymru y penwythnos hwn, a heb os ac oni bai, dydd Sul yn Nantporth y cynhelir y gêm y bydd pawb eisiau ei gweld.

Bryd hynny, fe fydd Penydarren BGC sy’n chwarae ym mhumed haen strwythur pêl-droed Cymru, yn wynebu’r Dinasyddion o Fangor.

I gyrraedd yr wyth olaf, mae’r tîm o Ferthyr Tudful wedi ennill chwe gêm hyd yma gan guro Penrhiwceibr Rangers, Brecon Corries, Corinthiaid Caerdydd, STM Sports, Cyffordd Llandudno a Phontypridd.

“Rydyn ni ar daith dylwyth teg,” meddai ysgrifennydd y clwb, Mansel Thomas, wrth golwg360.

Rhoi’r clwb ar y map

Rydyn ni’n mynd i Fangor gyda’r bwriad o ennill, mae’r A470 yn hewl ddigon diflas – ond os collwn ni, fe fydd hi’n hewl waeth byth!

“Mae’r hogiau wrth eu boddau bod y gêm yn fyw ar deledu a’n sicr rydan yn rhoi’r clwb ar y map. Mae yna gymysgedd dda yn y garfan o chwaraewr ifanc a phrofiadol.

“Rydyn ni’n glwb cymunedol gyda nifer o dimau o bob oedran, a bydd llawer yn teithio i’r gogledd dros y penwythnos,” meddai wedyn.

“Rydyn ni fel arfer yn cael rhwng 50-100 yn dod i’n gwylio, ond mae yna bedwar coach wedi’u trefnu y tro hwn, a gobeithio y bydd rhai yn penderfynu dod i wylio’r tîm am weddill y tymor ar ôl y rhediad gwych rydyn ni’n ei gael.

“Y nod hir dymor yw ennill dyrchafiad ar ôl dyrchafiad ac, fel clwb, fe fyddai cael cae 3G yn fendith i ni a’r ardal.”

Beth bynnag bu’r canlyniad prynhawn Sul mae gêm rownd cyn derfynol  Tlws Cymdeithas pêl droed Cymru’r wythnos wedyn yn erbyn Conwy yn Aberystwyth – yw mai wedi bod yn dipyn o dymor i Benydarren…