Mae pêl-droediwr ifanc o Gymru wedi symud i Sweden er mwyn ceisio creu gyrfa iddo’i hun gyda chlwb GIF Sundsvall.

Mae Scott Coughlan, 19, wedi ymuno á’r clwb sy’n chwarae yn Uwch Gynghrair Sweden, yr Allsvenskan, a hynny wedi tymor gyda chlwb Llanelli a threialon gydag Aberystwyth a Merthyr Tudful.

Fe dreuliodd gyfnod gyda Chaerdydd pan oedd yn fachgen, ac mae wedi cynrychioli Cymru dan-19 oed.

Cyfle da

“Fe ges i alwad gan fy asiant yn ddiweddar, roedd y clwb yn Sweden wedi cael gafael ar fy CV,” meddai Scott Coughlan wrth golwg360.

“Rwy’n deall mai ymladd am fy lle yn y tîm cyntaf y bydda’ i, mae gyda fi gytundeb tan fis Fehefin, ac roedd yn gyfle rhy dda i’w wrthod. Mae Lloyd Saxton o Loegr yn rhif un (golwr cyntaf) ar hyn o bryd – felly mae hi lan i fi i roi pwysau arno.

“Mae GIF Sundsvall yn nhref Sundsvall sydd tua thair i bedwar awr o’r brifddinas, Stockholm. Mae’r gynghrair yn dechrau fis Mawrth, ond r’yn yn chwarae mewn gemau cwpan ar hyn o bryd…

“Mae nifer o chwaraewyr  dramor yn y clwb yn barod o wledydd fel America, Nigeria, Ffindir a Sbaen,” meddai Scott Coughlan wedyn, “ac er mai Saesneg fydd iaith y cae ymarfer, rwy’ i am roi cynnig ar ddysgu Swedeg.”

 

Mae llefarydd ar ran clwb Llanelli yn dweud fod y cyfle hwn yn un “ffantastig”, a bod “pawb yn Llanelli yn dymuno’n dda” i’w cyn-chwaraewr yn y bennod newydd hon.