Mae rheolwr tîm pêl-droed Manchester City, Pep Guardiola yn gwisgo rhuban melyn Catalwnia ar gyfer gêm derfynol Cwpan Carabao yn Wembley – er iddo gael ei gosbi’r wythnos hon.

Cafodd ei gyhuddo gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr ddydd Gwener o “wisgo neges wleidyddol” ar ei ddillad dros y misoedd diwethaf.

Mae’r rhuban yn symbol sy’n dangos cefnogaeth i ymgyrch annibyniaeth Catalwnia, mamwlad y rheolwr.

Wrth egluro’i benderfyniad i’w wisgo yn y gorffennol, dywedodd Pep Guardiola y byddai’n parhau i’w wisgo tra bod arweinwyr gwleidyddol Catalwnia dan glo am eu rhan yn yr ymgyrch fis Hydref.

Mae e eisoes wedi anwybyddu sawl rhybudd gan y Gymdeithas Bêl-droed, sy’n mynnu bod gwisgo’r rhuban yn torri cod dillad a hysbysebu.

Dim ond ar y cae neu yn ardal y rheolwr y mae’r gwaharddiad mewn grym.

Mae’r gêm fawr rhwng Man City ac Arsenal yn dechrau am 4.30 heddiw.