Caerfyrddin 3–3 Aberystwyth                                                       

Cafwyd diweddglo hynod ddramatig yn y gêm Uwch Gynghrair Cymru rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth ar Barc Waun Dew nos Sul wrth i’r tîm cartref gipio gêm gyfartal gyda dwy gôl hwyr.

Roedd yr ymwelwyr yn meddwl eu bod wedi ei hennill hi gyda hatric y cefnwr dde, Declan Walker, ond yn ôl y daeth yr Hen Aur i ddwyn pwynt yn y munudau olaf.

Aeth Aber ar y blaen wedi deuddeg munud wrth i Walker anelu cic rydd trwy’r mur amddiffynnol ac i gefn y rhwyd.

Wnaeth Caerfyrddin ddim bygwth llawer o flaen gôl yn yr hanner cyntaf ond roeddynt yn gyfartal cyn yr egwyl diolch i beniad Luke Bowen o gic rydd Kieran Lewis.

Roedd yr ymwelwyr yn ôl ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner, Walker yn cael ei lorio yn y cwrt cosbi cyn codi ar ei draed i rwydo’i ail o’r smotyn.

Cafwyd arbediad gwych yn y pen arall toc wedi’r awr wrth i Chris Mullock gael ei law i ergyd gan Ceri Morgan a oedd yn anelu’n syth i’r gornel uchaf.

A manteisiodd Aber yn llawn ar waith da’r gôl-geidwad gan ddyblu’r fantais ychydig funudau’n ddiweddarach. Hon oedd trydedd gôl y cefnwr dde, Walker, a’r orau o’r tair wrth iddo orffen yn daclus i gwblhau gwrthymosodiad chwim.

Cafwyd arbediad da arall gan Mullock wedi hynny hefyd, yn gwyro ergyd Dwayne Coultress yn erbyn ei drawst gyda deg munud i fynd. Roedd hi’n ymddangos fod Aber am ddal eu gafael yn gyfforddus wedi hynny ond nid felly y bu.

Tynnodd Coultress un gôl flêr yn ôl yn yr ail funud o amser a ganiateir am anafiadau cyn i Lee Surman unioni pethau gyda gôl ddramatig ddau funud yn ddiweddarach.

Ac fe ddylai’r Hen Aur fod wedi ei hennill hi yn yr eiliadau olaf hefyd ond tarodd Luke Bowen ei ergyd yn erbyn ei gyd chwaraewr, Mark Jones, yn y cwrt chwech cyn i arbediad gwych arall gan Mullock atal peniad Jones o’r gic gornel ganlynol.

Y ddau dîm yn gorfod bodloni ar bwynt yr un yn y diwedd felly, pwynt sydd yn fawr o help i’r naill dîm na’r llall wrth i Aber aros yn ddegfed yn y tabl a Chaerfyrddin un safle yn is ac yn y ddau isaf.

.

Caerfyrddin

Tîm: Thomas, Knott (Coultress 73’), Vincent,, Surman, Sheehan, Morgan, Green (Walsh 64’), Thomas (Hanford 82’), Lewis, Bowen, Jones

Gôl: Bowen 28’, Coultress 90+2’, Surman 90+4’

Cerdyn Melyn: Green 17’

.

Aberystwyth

Tîm: Mullock, Walker, Wollacott, Owens, Melvin (Borrelli 80’), Owen, Wade (Kellaway 77’), Jones, Young, Allen, Phillips (Rimmer 87’)

Goliau: Walker 12’, [c.o.s. ]48’, 65’

.

Torf: 347