Caerdydd 1–0 Bristol City                                                                

Roedd gôl hwyr Kenneth Zohore’n ddigon i Gaerdydd wrth iddynt drechu Bristol City yn y Bencampariaeth amser cinio ddydd Sul.

Roedd hi’n bell o fod yn glasur yn Stadiwm Dinas Caerdydd a doedd fawr o syndod gweld yr hanner cyntaf yn gorffen yn ddi sgôr wedi prinder cyfleoedd clir yn y ddau ben.

Roedd Caerdydd fymryn yn well wedi’r egwyl gyda Zohore yn creu argraff oddi ar y fainc. A’r blaenwr o Ddenmarc a rwydodd y gôl holl bwysig wyth munud o ddiwedd y naw deg, yn troi croesiad isel Joe Ralls i gefn y rhwyd.

Mae’r fuddugoliaeth yn cadw Caerdydd yn yr ail safle yn y tabl, bedwar pwynt yn glir o Villa a’r gweddill, a chwe phwynt yn unig y tu ôl i Wolves ar y brig.

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Connolly, Ecuele Manga, Bamba Bennett, Paterson, Halford, Ralls, Feeney (Harris 73’), Madine (Zohore 45’), Hoilett

Gôl: Zohore 82’

Cardiau Melyn: Connolly 14’, Halford 65’

.

Bristol City

Tîm: Fielding, Wright, Flint, Baker (Kent 85’), Magnusson, Brownhill, Reid, Smith, Bryan, Diedhiou (Walsh 85’), Diony (Paterson 69’)

Cerdyn Melyn: Baker 5’

.

Torf: 21.018