Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Carlos Carvalhal wedi dweud bod salwch ei ffrind Jose Antonio yn rhoi pêl-droed a brwydr ei dîm i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr mewn persbectif.

Mae Jose Antonio, cyn-gapten tîm Leixoes ym Mhortiwgal, yn dioddef o ALS (sglerosis ochrol amitroffig) sy’n ymosod ar symudedd.

Mae ei gydwladwr Carlos Carvalhal wedi ysgrifennu llyfr am bêl-droed er mwyn ariannu triniaeth ei ffrind.

“Mae e’n dal i frwydro,” meddai’r rheolwr ar drothwy taith ei dîm i Brighton heddiw. “Roedd y meddygon wedi rhoi pum neu chwe blynedd iddo fyw, ond mae’n 13 neu 14 o flynyddoedd erbyn hyn [ers cael diagnosis].

“Dw i’n siarad â fe’n aml, bron bob wythnos, ac mae’n fath o wyrth gyda fe.”

“Mae’n dangos pan fo pethau fel hyn yn digwydd yn ein bywydau fod popeth yn dod yn berthynol.

“Pan fo gyda ni’r digwyddiadau hyn, ry’n ni i gyd yn gweld bywyd yn wahanol.

“Rydych chi’n gwybod sut mae cymharu pynciau a phroblemau. Mae pêl-droed yn bwnc, gall gael ei ddatrys neu beidio, gallwch chi ennill neu golli, gallwch chi gael eich diswyddo.

“Mae problem yn rhywbeth sydd yn eich dwylo chi, salwch, marwolaeth yn y teulu neu ffrind. Dyma broblemau go iawn.”

Elyrch v Gwylanod

Mae Brighton un pwynt a dau safle uwchlaw Abertawe, ond mae’r Elyrch wedi colli un gêm yn unig yn eu deuddeg gêm o dan arweiniad Carlos Carvalhal ers diwedd mis Rhagfyr.

Maen nhw’n herio’i gilydd yn Stadiwm Amex heddiw am 3 o’r gloch – y tro cyntaf iddyn nhw herio’i gilydd yn Brighton yn y gynghrair ers i’r Elyrch ddod yn bencampwyr yr Adran Gyntaf yn 2008.

Dyma’r tro cyntaf i’r Elyrch herio Brighton ar eu tomen eu hunain. Daw’r gêm dri mis ar ôl i’r Gwylanod guro’r Elyrch o 1-0 yn Stadiwm Liberty.

Brwydr y rheolwyr

Ond mae’r rheolwyr yn hen gyfarwydd â herio’i gilydd yn y Bencampwriaeth. Roedd Carvalhal yn rheolwr ar Sheffield Wednesday pan herion nhw dîm Chris Hughton nifer o weithiau yn y gynghrair.

Dim ond unwaith collodd Hughton yn erbyn Carvalhal mewn chwe gêm, ond tîm Carvalhal gafodd y fuddugoliaeth fwyaf yn rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle yn 2015-16.

Yn ôl Carlos Carvalhal, y gêm honno oedd ei “atgof gorau” yn erbyn Brighton.

“Maen nhw’n dîm cryf, collon nhw allan ar ddyrchafiad ond fe ddaethon nhw’n ôl y flwyddyn ganlynol a chymryd cam arall gyda nifer o’r un chwaraewyr.”

Ar drothwy’r gêm, mae Carlos Carvalhal wedi datgelu ei fod e wedi pleidleisio dros Chris Hughton i ennill gwobr Rheolwr y Flwyddyn yn 2015-16.

 

Y timau

Mae amddiffynnwr canol Abertawe, Alfie Mawson wedi gwella o anaf i’w ben-glin, ond mae’r chwaraewyr canol cae Leon Britton a Renato Sanches allan o hyd ag anafiadau.

Mae Wilfried Bony a Leroy Fer allan am weddill y tymor.

O safbwynt y Gwylanod, mae’r golwr Tim Krul wedi gwella o anaf a gafodd yng Nghwpan FA Lloegr, ac mae disgwyl iddo ddechrau’r gêm ar y fainc.

Mae Jiri Skalak a Steve Sidwell wedi’u hanafu o hyd.