Ipswich 0–1 Caerdydd
Mae Caerdydd bedwar pwynt yn glir yn ail safle’r Bencampwriaeth wedi buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Ipswich ar Portman Road nos Fercher.
Kenneth Zohore a sgoriodd unig gôl y gêm i’r ymwelwyr toc wedi’r awr.
Ipswich a gafodd y gorau o’r meddiant a chafodd Grant Ward ac Adam Webster gyfleoedd da i roi’r tîm cartref ar y blaen.
Ond cryfhaodd Caerdydd wrth i’r gêm fynd yn ei blaen ac fe rwydodd Zohore’r gôl holl bwysig wedi 65 munud, Gary Madine yn penio’r bêl i’w gyfeiriad yn dilyn cic rydd.
Daliodd yr amddiffyn yn gadarn wedi hynny i gadw llechen lân a sicrhau buddugoliaeth werthfawr. Wrth i Derby orfod bodloni ar bwynt yn unig gartref yn erbyn Leeds, mae tri phwynt yr Adar Gleision yn eu rhoi bedwar pwynt yn glir yn yr ail safle gyda thair gêm ar ddeg yn weddill.
.
Ipswich
Tîm: Bialkowski, Carter-Vickers, Chambers, Webster, Spence (Waghorn 79’), Ward (Bru 85’), Skuse, Hyam (Connolly 74’), Knudsen, Sears, Celina
.
Caerdydd
Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison (Halford 40’), Bamba, Connolly, Damour, Grujic (Madine 45’), Ralls, Mendez-Laing, Zohore (Bryson 87’), Hoilett
Gôl: Zohore 65’
Cerdyn Melyn: Bryson 90+1’
.
Torf: 13,205