Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Carlos Carvalhal wedi diolch i Sheffield Wednesday am y croeso cynnes yn Hillsborough wrth i’r timau orffen eu gêm ym mhumed rownd Cwpan FA Lloegr yn gyfartal ddi-sgôr.

Dywedodd ei fod yn emosiynol wrth gerdded allan gyda’i glwb newydd yn erbyn ei hen glwb – ddeufis yn unig ar ôl symud i Gymru ar ôl gadael Sheffield Wednesday.

Fe fydd yn eu hwynebu unwaith eto yn Stadiwm Liberty ymhen wythnos a hanner mewn gêm ail gynnig.

Fe ddaeth y rheolwr i ymyl y cae yn gynnar i gael derbyniad cynnes, ac fe gymeradwyodd y dorf ar ddiwedd y gêm.

‘Dagrau’

 

 

Ac fe gyfaddefodd ei fod yn agos at fod yn ei ddagrau.

“Bu bron i fi grio ar ôl y gêm pan ddaeth dau gefnogwr i siarad â fi. Mae’n foment emosiynol iawn.

“Rhaid i fi ddiolch i Sheffield Wednesday am y ffordd y gwnaeth y cefnogwyr fy nerbyn i, yr awyrgylch trydanol yn y stadiwm, y chwaraewyr, a hefyd y rheolwr [Jos Luhukay], y staff, pawb. Dyna’r rhan o bêl-droed dw i’n ei charu.”

Ychwanegodd mai fe yw’r “rheolwr hapusaf yn y byd”.

Y gêm

Daeth cyfle cynnar i Sheffield Wednesday fynd ar y blaen drwy Adam Reach, ond fe gafodd ei ergyd ei harbed gan Kristoffer Nordfeldt.

Ond buan y daeth cyfle i’r Elyrch wrth i Cameron Dawson arbed peniad Mike van der Hoorn.

Mae’r Elyrch yn wynebu trydedd gêm ail gynnig yn y gystadleuaeth ymhen wythnos a hanner, ac mae Carlos Carvalhal yn dweud bod y sefyllfa’n debyg i ffilm Police Academy.

“Mae’n edrych fel y ffilm Police Academy yna – Police Academy 1, Police Academy 2 ac ry’n ni’n credu ein bod ni’n mynd i Police Academy 3 ar hyn o bryd oherwydd dyma’r trydydd tro.

 

“Ond dyna’r realiti ac mae gyda ni gyfle o hyd i aros yn y gystadleuaeth felly dydy hynny ddim yn beth negyddol.”

Anaf

Cafodd yr amddiffynnwr canol Alfie Mawson anaf wrth gynhesu cyn y gêm, ac fe fydd wedi’i siomi gan y byddai wedi cael cyfle i chwarae gerbron rheolwr Lloegr, Gareth Southgate.

Dywedodd Carlos Carvalhal nad yw’r anaf i benglin Mawson yn ddifrifol, a’i fod yn teimlo bod “rhaid” i Loegr edrych arno fe rywbryd eto.