Fe fydd tîm pêl-droed yn mynd am le yn rownd wyth olaf Cwpan FA Lloegr am y tro cyntaf ers 1964 heddiw (12.30pm), wrth i’r rheolwr Carlos Carvalhal fynd â’i dîm newydd i herio’i hen dîm, Sheffield Wednesday yn Hillsborough y prynhawn yma.

Gadawodd y rheolwr o Bortiwgal y clwb yn Ne Swydd Efrog am Stadiwm Liberty ddeufis yn ôl, a hynny ar ôl treulio dwy flynedd a hanner yno.

Er bod yr Elyrch ar drothwy eu gêm fwyaf yn y gystadleuaeth ers hanner canrif, mae Carlos Carvalhal yn mynnu mai aros yn yr Uwch Gynghrair yw’r flaenoriaeth o hyd, a bod rhaid gorffwys nifer o’r prif chwaraewyr er mwyn cyflawni’r nod.

Dywedodd: “Fyddwn ni ddim yn cymryd risg ac fe fydd yna newidiadau oherwydd fe fydda i’n gwarchod rhai chwaraewyr, dw i’n sicr am hynny.

“Gofynnwch i fi [ddewis rhwng] aros yn yr Uwch Gynghrair neu ennill cwpan, a dw i’n dweud [aros yn] yr Uwch Gynghrair oherwydd mae’n bwysicach i’r clwb.”

‘Rhamant’

Ond ac yntau’n cyfaddef ei fod yn hoffi rhamant pêl-droed, fe gyfaddefodd y byddai wrth ei fodd yn ennill y gystadleuaeth.

Pe bai’r Elyrch yn llwyddo i ennill heddiw, fe fyddan nhw un gêm i ffwrdd o rownd gyn-derfynol yn Wembley.

“Fel rheolwr, fe fyddai’n wych bod â thlws,” meddai Carlos Carvalhal, sydd wedi bod i Wembley yn y gorffennol gyda Sheffield Wednesday ar gyfer gêm derfynol y gemau ail gyfle i gyrraedd yr Uwch Gynghrair.

“Bues i yn Wembley gyda Sheffield Wednesday ac ro’n i wrth fy modd. Dw i eisiau dychwelyd yno eto yn ystod fy ngyrfa.

“Ond dw i ddim yn hunanol oherwydd dw i’n deall blaenoriaeth y clwb, sef aros yn yr Uwch Gynghrair.”

Mae hynny’n golygu bod disgwyl i nifer o’r chwaraewyr ymylol ac ifainc chwarae, gan gynnwys y Cymry Daniel James a Connor Roberts.

Fe fydd yr Elyrch hefyd yn gobeithio osgoi trydedd gêm ail gynnig yn olynol yn dilyn gemau cyfartal yn erbyn Wolves a Notts County yn y rowndiau blaenorol.

Yn yr Uwch Gynghrair, mae’r Elyrch yn ddi-guro mewn naw gêm ac wedi codi allan o’r safleoedd disgyn.

Y tîm

Does dim hawl gan Andre Ayew nac Andy King chwarae gan eu bod nhw eisoes wedi chwarae i’w hen glybiau yn y gystadleuaeth, ac mae Leroy Fer, Wilfried Bony a Renato Sanches wedi’u hanafu.

Mae disgwyl i’r amddiffynnwr canol Kyle Bartley, yr asgellwyr Luciano Narsingh a Wayne Routledge a’r ymosodwr Tammy Abraham ddechrau’r gêm.

Fe fydd y golwr Kristoffer Nordfeldt yn dod i mewn i’r tîm yn lle Lukasz Fabianski, sy’n cael gorffwys yn y gystadleuaeth hon.