Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Carlos Carvalhal yn disgwyl croeso “arferol a da” wrth iddo ddychwelyd i’w hen glwb, Sheffield Wednesday gyda’i glwb newydd ddydd Sadwrn.

Bydd yr Elyrch yn herio’r Tylluanod yng Nghwpan FA Lloegr – a lle ymhlith yr wyth olaf am y tro cyntaf ers 54 o flynyddoedd fyddai’r wobr i Abertawe pe baen nhw’n llwyddo i ennill y gêm.

Roedd Carlos Carvalhal wedi bod yn Sheffield am ddwy flynedd a hanner pan benderfynodd e a’r clwb roi’r gorau i’w gyfnod wrth y llyw ar Noswyl Nadolig – a’i benodiad yn Stadiwm Liberty bedwar diwrnod yn ddiweddarach wedi synnu rhai yn Abertawe a Sheffield Wednesday, ac yntau wedi bod yn rheolwr digon di-nod yn y Bencampwriaeth.

Serch hynny, fe gafodd e rywfaint o lwyddiant wrth gyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle unwaith a’r rownd gyn-derfynol unwaith hefyd.

Mae rhediad yr Elyrch o naw gêm ddi-guro wedi cyfrannu at yr ymdeimlad ymhlith y cefnogwyr y gallan nhw aros yn yr Uwch Gynghrair am dymor arall wedi’r cyfan – er bod hynny’n dra annhebygol ddeufis yn ôl wrth iddyn nhw ostwng i waelod y tabl.

“Mynd adref”

Ar drothwy’r gêm fawr, mae Carlos Carvalhal yn cyfaddef ei fod e’n teimlo fel pe bai e’n “mynd adref” ddydd Sadwrn.

“Dw i wedi dweud fy mod i’n Dylluan, a Thylluan fydda’ i am byth,” meddai, gan ychwaneguei fod e wedi profi “eiliadau emosiynol, cryf” yn Sheffield Wednesday sy’n golygu y bydd e’n “rhan o’r clwb am byth”.

Er bod rhan helaeth o gefnogwyr Sheffield Wednesday “yn barod i gydnabod y gwaith da”, meddai, fe fydd rhai “yn fwy emosiynol” wrth gofio’r diweddglo siomedig ychydig dros chwe wythnos yn ôl cyn iddo fe adael am Abertawe. Ar y pryd, roedd y Tylluanod yn bymthegfed yn y Bencampwriaeth.

“Dw i’n disgwyl derbyniad arferol a da, ond dw i ddim yn gofidio’n ormodol am y sefyllfa. Dw i’n gofidio mwy am y gêm a cheisio gwneud ein pethau ni.”

Llwyddiant yng Nghymru

Tra bod Sheffield Wednesday yn dal yn bymthegfed yn y Bencampwriaeth, mae’r Elyrch yn unfed ar bymtheg yn Uwch Gynghrair Lloegr, bedwar safle’n uwch nag yr oedden nhw pan gafodd Carlos Carvalhal ei benodi.

Er ei fod e bellach yn canolbwyntio ar ei waith yn Abertawe, mae’n dweud y bydd modd edrych yn ôl ymhen rhai blynyddoedd a gwerthfawrogi’r hyn a gyflawnodd wrth y llyw yn Hillsborough.

“Roedd yr hyn wnaethon ni’n rywbeth na allwch chi ei anghofio na’i guddio. Dw i’n falch iawn o’r hyn wnaethon ni yno.

“Un peth yw mynd yn ôl i Hillsborough ar ôl wythnosau, ond rhywbeth cwbl wahanol yw mynd yn ôl ar ôl pum neu deng mlynedd.

“Dw i’n credu pan af fi’n ôl yno, bydda i’n cofio mewn ffordd emosiynol wahanol o safbwynt y cefnogwyr.”

‘Dim dryswch’

Byddai’n ddigon hawdd i reolwr oedd yn Hillsborough cyhyd i anghofio i ba gyfeiriad mae e i fod i fynd fel rheolwr y tîm oddi cartref, ond mae’n mynnu y bydd e’n gwybod ei ffordd wrth ddychwelyd i’r ystafell newid a’r cwt arall gydag Abertawe.

“Dw i’n cofio pan adawais i Besiktas [yn Nhwrci] ac roedd fy ngêm gyntaf gyda Basaksehir yn erbyn Besiktas. Fe wnes i gamgymeriad ac eistedd ar y fainc anghywir, ond dw i ddim yn credu y gwna i hynny y tro hwn!”