Caerdydd 2–0 Bolton                                                                              

Arhosodd Caerdydd o fewn cyrraedd dau uchaf y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth dros Bolton gartref yn Stadiwm y Ddinas nos Fawrth.

Sgoriodd Armand Traore Sean Morrison tua diwedd yr hanner cyntaf i sicrhau buddugoliaeth digon gyfforddus i’r Adar Gleision.

Wedi dros hanner awr di sgôr, fe roddodd Traore ei dîm newydd ar y blaen yn ei gêm gartref gyntaf, yn troi ac ergydio’n daclus yn y cwrt cosbi wedi i dafliad hir Callum Paterson greu trafferthion i amddiffyn Bolton.

Dyblodd Morrison y fantais funud cyn yr egywl, yn penio i gefn y rhwyd ar yr ail gynnig wedi i Ben Alnwick arbed ei gynnig cyntaf.

Bruno Ecuele Manga a ddaeth agosaf at ychwanegu trydedd yn yr ail hanner ond bodlonodd Neil Warnock a’i dîm ar ddwy gôl a buddugoliaeth gyfforddus yn y diwedd.

Mae’r tri phwynt yn rhoi Caerdydd o fewn pwynt i Aston Villa sydd yn yr ail safle gyda phymtheg gêm yn weddill.

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Peltier, Morrison, Ecuele Manga, Traore, Paterson, Grujic, Ralls, Hoilett (Bamba 88’), Zohore (Pilkington 84’), Ward (Wildschut 13’)

Goliau: Traore 34’, Morrison 44’

.

Bolton

Tîm: Alnwick, Dervite, Burke (Wheater 45’), Beevers, Morais, Derik (Clough 69’), Henry, Vela, Robinson, Le Fondre, Ameobi (Walker 86’)

Cerdyn Melyn: Beevers 43’

.

Torf: 16,013