Mansfield 5–0 Casnewydd                                                             

Collodd Casnewydd dir ar safleoedd ail gyfle’r Ail Adran gyda cholled drom yn erbyn Mansfield oddi cartref ar Field Mill nos Fawrth.

Sgoriodd y tîm cartref bedair gôl yn yr hanner cyntaf cyn cwblhau’r grasfa gyda phumed wedi’r egwyl.

Rhoddodd Danny Rose Mansfield ar y blaen wedi dim ond chwe munud cyn i Alfie Potter ddyblu’r fantais dri munud yn ddiweddarach.

Roedd hi’n dair wedi llai na hanner awr diolch i ail Potter, ac yn bedair yn fuan wedyn diolch i Alex MacDonald.

Gwnaeth Mike Flynn ambell newid i leihau’r difrod ar yr egwyl ac fe weithiodd hynny i raddau gan mai dim ond un arall yr ychwanegodd Mansfield yn yr ail hanner wrth i Potter gwblhau ei hatric ar yr awr.

Mae’r canlyniad yn gadael Casnewydd yn ddeuddegfed yn y tabl, saith pwynt i ffwrdd o safleoedd y gemau ail gyfle.

.

Mansfield

Tîm: Logan, Anderson, Bennett, Pearce, Benning, MacDonald, Potter (Penney 76’), King, Hamilton, Hemmings (Miller 79’), Rose (Spencer 89’)

Gol: Rose 6’, Potter 9’, 28’ 61’, MacDonald 34’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe, Demetriou, Bennett (Tozer 59’), Butler, White, Labadie, Dolan (O’Brien 45’), Willmott, Amond, Nouble (Jackson 45’)

.

Torf: 2,866