Abertawe 1–0 Burnley                                                                     

Llamodd Abertawe allan o safleoedd disgyn Uwch Gynghrair Lloegr gyda buddugoliaeth dros Burnley ar y Liberty brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Ki Sung-yueng unig gôl y gêm ddeg munud o’r diwedd wrth i’r Elyrch godi i’r pymthegfed safle yn y tabl.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, creodd Andre Ayew argraff oddi ar y fainc i’r tîm cartref. Bu rhaid aros tan ddeg munud o’r diwedd am yr unig gôl serch hynny, ergyd isel Ki Sung-yueng yn canfod cefn y rhwyd wedi rhediad Kyle Naughton.

Mae’r canlyniad yn codi tîm Carlos Carvalhal o’r tri isaf i’r pymthegfed safle yn y tabl.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, van der Hoorn, Fernandez, Mawson, Olsson (A. Ayew 59’), Dyer (Abraham 74’), Ki Sung-yueng, Carroll, Clucas, J. Ayew (King 90+1’)

Gôl: Ki Sung-yueng 81’

Cardiau Melyn: Olsson 28’, A. Ayew 90+1’

.

Burnley

Tîm: Pope, Lowton, Long, Mee, Taylor, Lennon (Arfield 74’), Cork, Hendrick, Berg Gudmundsson (Nkoudou 85’), Vokes (Wells 81’), Barnes

Cerdyn Melyn: Hendrick 57’

.

Torf: 20,176