Fe fydd y ddau frawd, Andre a Jordan Ayew yn gobeithio bod yn nhîm pêl-droed Abertawe i herio Burnley yn Uwch Gynghrair Lloegr heddiw (3 o’r gloch).

Gadawodd Andre yr Elyrch am West Ham yn 2016, ond fe ddychwelodd at yr Elyrch am £18 miliwn – sy’n record i’r clwb – ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo ar Ionawr 31. Ond y tro hwn, roedd wyneb cyfarwydd ei frawd, Jordan yn aros amdano.

Ac mae’r brawd hynaf, Andre wedi datgelu mai cyngor eu tad, Abedi Pele, sy’n cael ei ystyried yn un o fawrion y byd pêl-droed yn Affrica, oedd un o’r prif ddylanwadau ar ei benderfyniad i ddychwelyd i Gymru.

Dywedodd Andre Ayew: Mae e’n hapus. Doedd e ddim eisiau i fi adael Abertawe, a bod yn deg. Fe ddywedodd wrtha’i nad oedd e eisiau i fi fynd, a’i fod e’n teimlo nad oedd popeth ar ben i fi yma. Ond mae pethau’n digwydd ac mae penderfyniadau’n cael eu gwneud.

“Ond pan ges i’r cyfle i ddychwelyd, ei gyngor oedd y dylwn i ddod yn ôl i Abertawe a pheidio â mynd i unman arall. Meddyliais i am y peth. Mae gyda fi fwy o brofiad nawr, felly fe wnes i sicrhau fy mod i’n meddwl am bopeth.”

Hanes y teulu

Ac yntau’n 28 oed erbyn hyn, mae e ddwy flynedd yn hŷn na Jordan, oedd wedi symud i Stadiwm Liberty o Aston Villa flwyddyn yn ôl wrth i’r Cymro Neil Taylor symud i’r cyfeiriad arall.

Dyma’r ail waith y bydd y ddau frawd wedi chwarae yn yr un clwb proffesiynol, yn dilyn eu cyfnod gyda Marseille yn Ffrainc – a’r ddau ohonyn nhw wedi cynrychioli tîm cenedlaethol Ghana.

Roedd hi’n anochel mai pêl-droedwyr fyddai’r ddau, ar ôl i’w tad chwarae i dîm Marseille hefyd, ac ennill Cynghrair y Pencampwyr gyda nhw yn 1993 a chael ei enwi’n seren y gêm. Cafodd y tad hefyd ei enwebu sawl gwaith am wobr Chwaraewr Gorau’r Byd FIFA.

“Ry’n ni yma,” meddai Andre Ayew, “a gobeithio y gallwn ni wneud rhywbeth gwych. Mae bod yma’n dda, ond y peth pwysig yw sicrhau canlyniadau i’r clwb.”

Cynigion eraill

Ac mae Andre Ayew wedi datgelu ei fod e wedi cael cynigion gan sawl clwb cyn dewis dychwelyd i Abertawe.

“Wnes i ddim siarad gyda [Jordan] am symud yma, oherwydd ry’n ni’n sgwrsio’n aml ac felly roedd e’n gwybod beth oedd yn digwydd, ac roedd yn benderfyniad hawdd beth bynnag.

“Fe ges i gynigion gan glybiau eraill, ond ro’n i eisiau mynd i Abertawe oherwydd y berthynas oedd gyda fi gyda’r clwb a’r cefnogwyr, oedd yn un arbennig iawn.

“Pan oeddwn i wedi gadael, doedden ni ddim wedi dechrau tymor y gynghrair, felly ches i ddim cyfle i ddweud ‘diolch a hwyl fawr’, ond roedd gyda ni berthynas wych ac ro’n i am ei gwneud hi’n berthynas well fyth.”

Partneriaeth

Sgoriodd Andre Ayew bymtheg gôl yn ei unig dymor gyda’r clwb, ac mae rhai eisoes yn sôn y gallai’r bartneriaeth newydd gyda’i frawd Jordan fod ymhlith y partneriaethau gorau yng ngwaelodion Uwch Gynghrair Lloegr yn ail hanner y tymor.

Ac mae’r brawd hynaf yn edrych ymlaen at gydio yn y berthynas honno unwaith eto yn Abertawe. Dydyn nhw ddim wedi chwarae yn yr un clwb ers 2013.

“Doedden ni ddim yn ffôl [ym Marseille]! Roedd Jordan yn dal yn ifanc bryd hynny ac roedd gyda ni nifer o chwaraewyr mawr, felly doedd e ddim yn chwarae drwy’r amser.

“Ond ry’n ni wedi mwynhau chwarae gyda’n gilydd ac ry’n ni’n deall ein gilydd yn dda, ond dim ond siarad yw hyn i gyd. Ry’n ni wedi’i wneud e o’r blaen, a rhaid i ni ei wneud e eto, ond cyfrifoldeb y garfan i gyd fydd hi.

Dywedodd fod ei frawd yn “hyderus” a’i fod e’n “fachgen sentimental iawn ac yn teimlo popeth i’r byw” – rhywbeth a fydd yn ei ysgogi i helpu’r Elyrch i frwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair.

Y timau

Mae Andre Ayew yn holliach ar ôl bod yn dioddef o anaf i linyn y gâr, ac mae’r Cymro Andy King ar gael am y tro cyntaf yn dilyn ei absenoldeb yr wythnos ddiwethaf am nad oedd ganddo fe hawl i chwarae yn erbyn Caerlŷr, y tîm sydd wedi ei anfon ar fenthyg at Abertawe.

Mae Stephen Ward ar gael i Burnley ar ôl gwella o anaf i’w ben-glin, ond mae’r amddiffynnwr Phil Bardsley allan ag anaf i linyn y gâr.

Mae Matthew Lowton ar gael i’r ymwelwyr ar ôl gwella o anaf.

Mae’r Elyrch yn mynd am bedwaredd buddugoliaeth o’r bron yn erbyn Burnley – sy’n efelychu eu record yn eu herbyn. Maen nhw hefyd yn mynd am drydedd buddugoliaeth gartref yn olynol am y tro cyntaf y tymor hwn.

Dydy Burnley ddim wedi ennill yr un o’u naw gêm diwethaf yn yr Uwch Gynghrair.