Wrth i dîm pêl-droed Abertawe barhau i frwydro i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr, fe ddaeth y newyddion fod dau o’u chwaraewyr mwyaf profiadol allan am weddill y tymor.

Daeth Leroy Fer oddi ar y cae ar wastad ei gefn yng Nghaerlŷr ar ôl anafu ei ffêr, ac mae Wilfried Bony wedi rhwygo cyhyr yn ei goes.

Mae disgwyl i’r ddau gael llawdriniaeth.

Mae’r Elyrch allan o’r safleoedd disgyn am y tro ar ôl gorffen y gêm yn gyfartal 1-1 brynhawn ddoe.