Caerlŷr 1–1 Abertawe                                                                       

Mae rhediad da Abertawe o dan reolaeth Carlos Carvalhal yn parhau wedi gêm gyfartal yn erbyn Caerlŷr oddi cartref yn Stadiwm King Power yn Uwch Gynghrair Lloegr brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Jamie Vardy’r tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i Federico Fernandez achub pwynt i’r ymwelwyr o Gymru wedi’r egwyl.

17 munud a oedd ar y cloc pan rwydodd Vardy wedi gwaith creu Kelechi Iheanacho ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.

Roedd yr Elyrch yn gyfartal wyth munud yn unig wedi’r ail gychwyn diolch i beniad Fernandez o groesiad Ki Sung-yueng.

Mae’r canlyniad yn codi Abertawe allan o safleoedd y gwymp ar wahaniaeth goliau gan i Stoke a Huddersfield golli. Tri phwynt yn unig sydd bellach yn gwahanu’r wyth tîm rhwng yr unfed safle ar ddeg a’r pedwerydd safle ar bymtheg yn y tabl.

.

Caerlŷr

Tîm: Schmeichel, Simpson (Okazaki 80’), Dragovic, Maguire, Fuchs, Diabate, Ndidi, Albrighton, Adrien Silva (James 68’), Vardy, Iheanacho (Gray 68’)

Gôl: Vardy 17’

Cerdyn Melyn: Diabate 3’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, van der Hoorn, Fernandez, Mawson, Olsson, Fer (Carroll 36’), Ki Sung-yueng, Clucas, Dyer (Bony 71’), J. Ayew (Routledge 41’)

Gôl: Fernandez 53’

.

Torf: 31,179