Mae amheuon am ffitrwydd yr ymosodwr newydd, Andre Ayew ar drothwy taith tîm pêl-droed Abertawe i Gaerlŷr ar gyfer y gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr y prynhawn yma (3 o’r gloch).

Mae ganddo fe anaf i linyn y gâr, oedd wedi cyfyngu ei amser ar y cae yn ystod ei wythnosau olaf yn West Ham cyn symud i Abertawe ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo ddydd Mercher.

Mae disgwyl iddo fe gael prawf ffitrwydd cyn y gêm ond os yw e am chwarae unrhyw ran, mae’n debygol mai dechrau ymhlith yr eilyddion fydd e.

Dydy’r chwaraewr arall ddaeth i’r Elyrch ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo, sef chwaraewr canol cae Cymru, Andy King ddim yn gallu chwarae yn erbyn y tîm sydd wedi ei roi ar fenthyg i’r Elyrch, a fydd e’n methu chwarae yn y gêm gwpan yn erbyn Notts County nos Fawrth ychwaith.

Yn y cyfamser, mae Renato Sanches allan o hyd ag anaf i gyhyr yn ei goes.

‘Optimistaidd’

Wrth siarad â’r wasg ddydd Iau, dywedodd rheolwr Abertawe, Carlos Carvalhal ei fod yn “optimistaidd” y byddai Andre Aye war gael am rywfaint o’r gêm.

“Fe wnaethon ni sgan heddiw, fe siaradais i â’r meddyg amdano fe ac mae e’n optimistaidd.

“Mae e’n ymarfer gyda’r ffisiotherapyddion ac os yw popeth yn iawn, fe fydd e’n penderfynu a fydd e’n ymarfer gyda’r tîm neu beidio.”

Fe fyddai’n hwb i’r Elyrch pe bai Andre Ayew ar gael, ac yntau newydd gostio £18 miliwn.

Yn ôl Carlos Carvalhal, mae’r chwaraewr sy’n cynrychioli tîm cenedlaethol Ghana yn “hyblyg” o ran ei safleoedd ar y cae.

“Mae e’n chwaraewr sy’n gallu chwarae mewn safleoedd gwahanol o fewn ein system ni. Mae e’n hyblyg iawn.

“Mae e’n gallu chwarae ar y dde, ar y chwith neu yn y canol. Mae [ei frawd] Jordan yr un fath.

“Mae [Andre] yn ychwanegu ansawdd i’r tîm ac fel Jordan, dydy e ddim yn colli’r bêl yn hawdd ac mae e’n ddolen gyswllt o safon rhwng canol y cae a’r ymosod.

Y gwrthwynebwyr

 Fe fu Caerlŷr yn destun trafod dros y dyddiau diwethaf ar ôl gwrthod gwerthu’r asgellwr Riyad Mahrez – a hwnnw wedyn yn gwrthod ymarfer gyda’r garfan.

Mae hynny’n golygu na fydd e’n wynebu’r Elyrch, ond dydy Carlos Carvalhal “ddim yn gofidio am y cymdogion”, meddai.

“Os ydw i’n byw yn fy nhŷ i, dw i ddim yn gwybod beth fyddan nhw’n ei wneud.

“Dw i byth yn edrych y tu mewn i’w tŷ nhw, dw i’n amddiffyn fy nhŷ i, fy nheulu, fy nghŵn, felly nid fy mhroblem i yw hi.

“Maen nhw’n dîm cryf, y tîm cryfaf i ni eu herio ers i ni gyrraedd [fel tîm rheoli].

“Mae ganddyn nhw chwaraewyr da ac maen nhw’n drefnus ac yn gryf gartref.

“Bydd hi’n anodd iawn ond byddwn ni’n trafod, yn ymladd am y triphwynt ond mae gyda ni barch mawr atyn nhw.”

Ystadegau o blaid Caerlŷr

Mae hon yn gêm anodd i ddarogan ei chanlyniad, ond mae’r ystadegau ar y cyfan o blaid Caerlŷr.

Maen nhw wedi ennill y pum gêm ddiwethaf yn erbyn yr Elyrch ar eu tomen eu hunain, ac wedi ennill pump allan o’r chwe gêm ddiwethaf yn eu herbyn yn Uwch Gynghrair Lloegr. Ond yr Elyrch enillodd o 2-1 ddechrau’r tymor hwn.

Mae Caerlŷr hefyd yn ddi-guro ar eu tomen eu hunain ers canol mis Rhagfyr, gan ennill eu tair gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth heb ildio’r un gôl.

Ond mae rhai ystadegau o blaid Abertawe hefyd.

Ers dechrau tymor 2016-17, mae Riyad Mahrez wedi methu tair gêm yn unig – a’i dîm wedi colli pob un ohonyn nhw.

Mae’r Elyrch yn mynd am dair buddugoliaeth o’r bron yn y gynghrair am y tro cyntaf ers diwedd y tymor diwethaf.

Ac o’r 15 pwynt posib o dan reolaeth Carlos Carvalhal, maen nhw wedi ennill 10 ohonyn nhw, gan gynnwys buddugoliaethau mawr yn ddiweddar dros Arsenal a Lerpwl. Dim ond un gêm maen nhw wedi ei cholli o dan reolaeth y gŵr o Bortiwgal hyd yn hyn.