Caerdydd 0–2 Man City                                                                    

Mae Caerdydd allan o’r Cwpan FA ar ôl colli yn erbyn Man City yn y bedwaredd rownd o flaen torf fawr yn Stadiwm y Ddnas brynhawn Sul.

Roedd Man City yn rhy dda i’r Adar Gleision, yn enwedig yn yr hanner cyntaf, ac er iddynt dynnu’r droed oddi ar y sbardun wedi’r egwyl, roedd tîm Pep wedi gwneud digon.

Aeth yr ymwelwyr o Fanceinion ar y blaen wedi dim ond wyth munud wrth i Kevin De Bruyne dwyllo pawb gyda chic rydd ddeheuig o dan y mur amddiffynnol.

Achosodd ergyd Junior Hoilett o bellter broblemau i Claudio Bravo yn y pen arall ond llwyddodd gôl-geidwad Man City i gasglu’r bêl ar yr ail gynnig.

Roedd Bernardo Silva’n meddwl ei fod wedi dyblu’r fantais wedi pum munud ar hugain gydag ergyd wych o ochr y cwrt cosbi ond cafodd y gôl ei gwrthod gan bod y dyfarnwr cynorthwyol yn meddwl fod Leroy Sane’n camsefyll.

Fu dim rhaid i dîm Pep Guardiola aros yn rhy hir am eu hail gôl serch hynny diolch i beniad Raheem Sterling o groesiad Bernardo Silva wyth munud cyn yr egwyl.

Roedd Caerdydd yn well wedi’r egwyl a daeth Hoilett o fewn modfeddi i haneru’r bwlch gyda chwip o ergyd o gornel y cwrt cosbi hanner ffordd trwy’r hanner.

Arafu a wnaeth chwarae ymosodol Man City yn yr ail hanner ond bu rhaid i Neil Etheridge fod yn effro o hyd i atal Sterling a Danilo.

Derbyniodd Joe Bennett ei eil gerdyn melyn a cherdyn coch yn yr eiliadau olaf i gwblhau prynhawn siomedig i’r Adar Gleision. Bydd golygon Neil Warnock yn awr yn troi’n ôl at y Bencampwriaeth a’u hymgyrch i ymuno â Man City yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Richards, Morrison, Ecuele Manga, Bennett, Grujic, Ralls (Damour 88’), Mendez-Laing (Feeney 78’), Paterson, Hoilett, Zohore (Pilkington 67’)

Cardiau Melyn: Bennett 45’, 90+2’ Ecuele Manga 77’

Cerdyn Coch: Bennett 90+2’

.

Man City

Tîm: Bravo, Walker, Kompany, Otamendi, Danilo, De Bruyne, Fernandinho, Gundogan, Bernardo Silva (Diaz 89’), Sterling, Sane

Gôl: De Bruyne 8’, Sterling 37’

Cerdyn Melyn: Fernandinho 80’

.

Torf: 32,339