Llandudno 4–3 Rhuthun (wedi amser ychwanegol)            

Mae Llandudno yn wyth olaf Cwpan Cymru ar ôl curo Rhuthun wedi amser ychwanegol ar Barc Maesdu nos Sadwrn.

Roedd hi’n gêm dda iawn o flaen camerâu Sgorio a daeth Rhuthun, y tîm o Gynghrair Undebol Huws-Gray, o fewn pedwar munud i sicrhau buddugoliaeth enwog.

Ergyd wych Toby Jones i roi’r tîm cartref ar y blaen o bum llath ar hugain a oedd unig gôl hanner cyntaf gwyntog.

Roedd y gwynt y tu ôl i Rhuthun wedi’r egwyl ac fe gydiodd hwnnw yng nghic rydd Tom Roberts i guro Dave Roberts yn y gôl ac unioni pethau toc cyn yr awr.

Roedd gôl-geidwad Llandudno ar fai am ail Ruthun saith munud yn ddiweddarach hefyd wrth i’w gic wael lanio wrth draed Ilan Hughes yn y cylch canol ac anelodd hwnnw ergyd gywir i gefn y rhwyd o bellter mawr.

Amddiffynnodd Rhuthun yn gymharol gyfforddus wedi hynny ond fe lwyddodd Llandudno i orfodi amser ychwanegol pan beniodd Matty Williams i gefn y rhwyd wedi camgymeriad amddiffynnol yn y pen arall y tro hwn.

Y tîm o Uwch Gyghrair Cymru oedd y gorau yn hanner cyntaf yr amser ychwanegol ac fe aethant â’r gêm o afael Rhuthun gyda dwy gôl. Rheolodd Marc Williams yn daclus yn y cwrt chwech cyn gorffen yn grefftus cyn i Jones ychwanegu ei ail ef a phedwaredd ei dîm wedi rhediad da ac ergyd.

Rhoddodd Osian Davies lygedyn o obaith i Ruthun wedi gwaith da Hughes yn yr ail hanner o amser ychwanegol ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi wrth i Landuno ddal eu gafael i sicrhau eu lle yn y rownd go-gynderfynol.

.

Llandudno

Tîm: Roberts, Taylor, Joyce, Shaw, Matty Williams, Hughes, Marc Williams, Evans (Thomas 62’), Mike Williams, Jones

Goliau: Jones 17’, 97’, Matty Williams 86’, Marc Willimas 92’

Cardiau Melyn: Hughes 72’, Liam Thomas 114’

.

Rhuthun

Tîm: Goldston, Wilkinson (Williams 87’), Roberts, Sharples, Evans, Hughes, McCarter (Owen 98’), Davies, Morris, Owen, Hafal (W. Roberts 64’)

Goliau: Roberts 59’, Hughes 66’, Davies 112’

.