Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Carlos Carvalhal yn mynnu y byddan nhw’n “parchu” Notts County yn ystod eu gêm ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr heddiw (3 o’r gloch).

Dydyn nhw ddim wedi herio’i gilydd yn y gystadleuaeth hon ers 1934, wrth i’r Elyrch ennill o 1-0 yn y drydedd rownd.

Dim ond wyth buddugoliaeth gafodd yr Elyrch y tymor hwn hyd yma, a thair ohonyn nhw yn erbyn timau o gynghreiriau is yn y gwpan.

Tra bod yr Elyrch ar waelod Uwch Gynghrair Lloegr, mae Notts County yn ail yn yr Ail Adran.

Y timau

Mae’r ymosodwr Tammy Abraham, yr amddiffynnwr a’r capten Angel Rangel a’r chwaraewr canol cae Renato Sanches i gyd wedi bod yn ymarfer ar ôl gwella o anafiadau.

Mae golwr Notts County Ross Fitzsimons a’r chwaraewr canol cae Matty Virtue wedi’u gwahardd, tra bod yr amddiffynnwr Matt Tootle yn sâl.

Mae carfan Notts County yn cynnwys y chwaraewr-reolwr Kevin Nolan, cyn-chwaraewr canol cae Man U Alan Smith a chyn-ymosodwr Newcastle Shola Ameobi, yn ogystal â Richard Duffy, yr amddiffynnwr o Gymru oedd yn aelod o garfan Abertawe ac a enillodd 13 o gapiau dros ei wlad.

‘Parch’

Dywedodd rheolwr Abertawe, Carlos Carvalhal: “Wrth gwrs mai ni yw’r tîm mwyaf, ond byddwn ni’n parchu Notts County.

“Byddwn ni’n dewis tîm all ennill y gêm.

“Yn enwedig yn Lloegr, fe fydd gwrthwynebwyr yn gofyn cwestiynau i chi drwy’r amser, felly rhaid i ni roi’r atebion cywir.

“Mae’r timau bychain, hyd yn oed, yn drefnus ac yn anodd chwarae yn eu herbyn.”