Mae capten tîm pêl-droed Caerdydd, Sean Morrison wedi amddiffyn dull y tîm o chwarae’r gêm ar drothwy eu cyfarfod mawr â Manchester City yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr ddydd Sul (4 o’r gloch).
Mae’r Adar Gleision wedi’u cyhuddo gan reolwr Man City, Pep Guardiola o “chwarae llawer o beli hir”.
Roedd y Catalanwr yn bresennol ar gyfer gêm Caerdydd yn erbyn Mansfield yn y gêm ail gyfle yn asesu tactegau’r tîm.
Ond dywedodd Sean Morrison: “Dw i ddim yn credu ein bod ni’n dîm y bêl hir. Ry’n ni’n hoffi chwarae’n uchel ar y cae a dydyn ni ddim yn oedi ar y bêl.
“Dydyn ni ddim yn pasio’r bêl yn uniongyrchol gymaint â rhai timau, nac yn pasio’r bêl o gwmpas y pedwar yn y cefn nac yn cadw meddiant gymaint.
“Ry’n ni’n hoffi symud y bêl yn ei blaen a chwarae o’r fan honno. Ond fyddwn i ddim yn ein galw ni’n dîm y bêl hir, hyd yn oed os ydyn ni’n fwy uniongyrchol na’r timau maen nhw’n gyfarwydd â’u herio.”
Her fawr
Fe fydd yr Adar Gleision, sy’n drydydd yn y Bencampwriaeth, yn herio Man City sydd â mantais o ddeuddeg pwynt dros eu cymdogion Man U ar frig Uwch Gynghrair Lloegr.
Pan oedden nhw yn Uwch Gynghrair Lloegr am dymor yn 2013-14, llwyddodd yr Adar Gleision i guro tîm Manuel Pellegrini o 3-2.
Ac mae Sean Morrison yn gobeithio y gallai’r gêm fawr ddydd Sul fod yn sbardun ar gyfer gweddill y tymor.
“Mae’n brawf braf i ni oherwydd os cawn ni ddyrchafiad, byddwn ni’n herio timau fel Man City y tymor nesaf.
“Mae’r ffordd maen nhw’n chwarae’n wych i’w gwylio ac mae’n mynd i fod yn anodd ymdopi â hynny, ond mae’n gêm braf i’w chael.
Y gwrthwynebwyr
Mae Man City yn dal yn mynd am bedwar tlws y tymor hwn ar ôl aros yng Nghynghrair y Pencampwyr a llwyddo i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Carabao.
Fe guron nhw Bristol City, sydd yn y Bencampwriaeth gyda Chaerdydd, wrth gyrraedd y ffeinal.
Ychwanegodd Sean Morrison: “Gallwn ni gymryd gryn dipyn o’r ffordd y chwaraeodd Bristol City yn eu herbyn nhw oherwydd mae’n rhoi gwybod i ni y gallwn ni roi gêm dda iddyn nhw os cawn ni ein cynlluniau’n iawn.”
Ond mae’n cyfaddef fod “bwlch” rhwng y ddau dîm o ran eu safon.