Mae ymosodwr Casnewydd, Paul Hayes yn gobeithio dial ar Spurs wrth i’r tîm o Uwch Gynghrair Lloegr deithio i Rodney Parade ar gyfer gêm fawr i’r Cymry ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr (5.30pm).

Sgoriodd Hayes ddwywaith ar gae White Hart Lane y tymor diwethaf wrth i Wycombe fygwth un o ganlyniadau mawr y gystadleuaeth cyn colli o 4-3 ar ôl saith munud o amser a ganiateir am anafiadau.

Dywedodd yr ymosodwr ar drothwy’r gêm fawr heno ei fod yn gobeithio’i wneud ei hun yn “falch” ar ddiwedd y noson.

“Mae rhai timau’n mynd i’r clybiau mawr ac weithiau’n newid eu siâp a’u tactegau, ond aeth Wycombe yno a heb newid unrhyw beth.

“Fe chwaraeon ni mewn modd uniongyrchol yn eu herbyn nhw ac achosi problemau iddyn nhw, ac roedd yr hyn ddigwyddodd ar y diwedd yn un o’r sefyllfaoedd hynny.

“Fe chwaraeodd y dyfarnwr dros yr amser ac roedd rhaid i ni fwrw ati.

“Dw i’n amau a fydd cefnogwyr Spurs yn cofio fy ngoliau ond gobeithio y byddwn ni’n ceisio achosi cynifer o broblemau iddyn nhw ag y gwnaeth Wycombe.”

Hynt a helynt Paul Hayes a LinkedIn

Mae Paul Hayes yn 34 oed ac wedi chwarae mewn mwy na 600 o gemau.

Roedd ei enw yn y newyddion yn ddiweddar ar ôl i reolwr Casnewydd, Mike Flynn ymateb i hysbyseb ar wefan LinkedIn, lle’r oedd yn cynnig ei hun i glybiau.

Cafodd e gytundeb gyda’r Alltudion tan ddiwedd y tymor.

Ond doedd dim modd iddo chwarae tan yr wythnos ddiwethaf oherwydd problemau’n ymwneud â chofrestru.

Yn y cyfamser, mae e wedi bod yn hyfforddi ymosodwyr y clwb.